Cost of Living Support Icon

Cynllun Gwobr y Faner Werdd

Cynllun Gwobr y Faner Werdd® yw’r meincnod safon ar gyfer parciau a lleiniau gwyrdd yn y DU

 

Cyflwynwyd y cynllun yn 1996 i gydnabod a gwobrwyo’r lleiniau gwyrdd gorau yn y wlad. Rhoddwyd y gwobrau cyntaf yn 1997 a heddiw, mae’r cynllun yn parhau i weithredu fel llinyn mesur ar gyfer safon ein parciau a’n lleiniau gwyrdd.

 

Ar hyn o bryd, mae pum parc ym Mro Morgannwg sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd. 

 

Windsor-Gardens

Parc Alexandra a Gerddi Windsor

Penarth

Parc Edwardaidd sydd wedi cael ei gynnal a’i gadw’n dda ydy Parc Alexandra. Mae’n edrych dros Fôr Hafren mewn safle deniadol ac mae wedi cadw nifer o’i nodweddion gwreiddiol.

Central-Park-in-Barry

Parc Canolog

Y Barri 

Lleolir y Parc Canolog mewn man cyfleus yng nghanol y dref, yn union ddrws nesaf i Neuadd y Dref a Llyfrgell Sir y Barri, a thafliad carreg o siopau a bwytai lleol.

Parciau

Parc Victoria

Y Barri

Parc hanesyddol braf yn Nhregatwg yn nwyrain y Barri. Mae yno gyfuniad unigryw o nodweddion traddodiadol a chyfoes a chasgliad nodedig o blanhigion diddorol o fewn ei 6.5 erw.  

Barry Island Gardens

Glan y Môr Ynys y Barri a Thrwyn Friars 

Y Barri

Mae’r parc yn fân agored sydd yn goruchwylio rhodfa Ynys y Barri, gyda golygfeydd o’r traeth a’r môr.

Mae amrywiaeth o flodau lliwgar, glaswellt a safle seindorf.

Porthkerry Viaduct

Parc Gwledig Porthceri

Y Barri

220 acer o goedwigoedd a gweundir mewn cwm clud, yn arwain at draeth graean a chlogwyni hyfryd.

 

 

Belle Vue Park

Parc Belle Vue

Penarth

Mae Parc Belle Vue yn barc yng nghanol Penarth yn dyddio o ddiwedd oes Fictoria. Mae wedi’i leoli yng nghanol strydoedd coediog a thai cyfnod o’i gwmpas.

Romilly-Park-in-Barry

Parc Romilly

Y Barri

Mae Parc Romilly’n barc cofrestredig gradd II CADW. Mae ynddo lain bowlio, cyrtiau tenis, ardal chwarae i blant, arddangosiadau blodau tymhorol ac ardal agored fawr ar gyfer gweithgareddau hamdden.

The-Knap-Lake

Gerddi'r Cnap

Y Barri

Cyfran boblogaidd trwy gydol y flwyddyn. Mae Gerddi'r Cnap yn werddon o dawelwch o'r gwynt sy'n chwythu i mewn o Draeth y Cnap, gyda'i ffiniau llawn blodau, gardd suddedig a ffynnon dinciog ysgafn.

Cosmeston Lakes

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Penarth

Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn Cosmeston dros 100 hectar o dir a dŵr, ac mae rhai parthau wedi eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

gladstone_gardens

Gerddi Gladstone

Y Barri 

Llain gwyrdd, agored braf yng nghalon Y Barri, enwyd Gerddi Gladstone ar ôl William Gladstone, a fu'n Brif Weinidog Rhyddfrydol bedair gwaith.

 

 

   

 

Am wybodaeth bellach am Gynllun Gwobr y Faner Werdd, ewch i wefan y Faner Werdd.