Cost of Living Support Icon

Parc Alexandra

Rectory Road, Penarth, CF64 3AN

  • o 8a.m. tan y gwyll 

 

Gweld Parc Alexandra ar y map 

 Alexandra park 1

Dyma barc cyhoeddus Edwardaidd trwsiadus mewn lleoliad deniadol sy’n edrych dros Fôr Hafren, ac sydd wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol. 

 

Gosodwyd y parc yn 1901/02 a bu’n boblogaidd o’r dechrau un. Codwyd y Senotaff yn 1924. Fe’i lluniwyd gan Syr William Goscombe John, cerflunydd a medalydd a aned yng Nghaerdydd, ac fe’i codwyd i goffáu’r sawl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychwanegwyd yr Ardd Goffa a’r tocwaith yn y 1920au hefyd. 

 

Dymchwelwyd y bandstand gwreiddiol yn y 1950au, ond goroesodd cysgodfa bren, sgwâr tan 1994, pan godwyd y strwythur presennol.

 

Ymhlith y nodweddion gwreiddiol, mae’r seddi, gatiau’r parc a’r ffiniau. Mi ddatganwyd bwriad i blannu planhigion o ddiddordeb botanegol yn y dyddiau cynnar, ond ni wireddwyd hyn, a phrin oedd y tyfiant ar y dechrau. Plannwyd nifer o’r conifferau, megis y coed pinwydd (pinus nigra), cypreswydd Lawson (chamaecyparis lawsoniana) a chypreswydd Monterey cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae’r parc Edwardaidd hwn wedi derbyn Gwobr anrhydeddus y Faner Werdd.