Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae llyfrgelloedd Bro Morgannwg bellach yn cynnig cyfrifiaduron llechen i'w benthyg i aelodau'r llyfrgell. Mae'n gobeithio cynnig cyfle i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at offer digidol gymryd y camau cyntaf tuag at fynd ar-lein.
Mae ein holl gyfrifiaduron llechen wedi'u llwytho ymlaen llaw gyda data 4G. Mae hyn yn golygu nad oes angen eu cysylltiad rhyngrwyd eu hunain ar ddefnyddwyr er mwyn cael mynediad i wefannau a gwasanaethau ar-lein gyda'r dyfeisiau. Mae'r llechi hefyd yn cynnwys detholiad o appiau, wedi'u dewis yn benodol gan ein staff arbenigol ein hunain i ddechrau defnyddwyr arni cyn gynted â phosibl.
Gellir benthyca tabledi o'n canghennau yn y Barri, Y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Penarth.
Yn union fel llyfrau llyfrgell, mae benthyciadau yn rhad ac am ddim.
Mae'r cyfnod benthyca safonol am bythefnos gyda'r opsiwn i ymestyn y benthyciad ar yr amod nad oes unrhyw ddefnyddwyr eraill yn aros.
Tra bod gennych y ddyfais, mae gennych ddefnydd llawn o'i holl nodweddion megis galwadau fideo, pori'r rhyngrwyd a lawrlwytho a defnyddio eich dewis eich hun o appiau.
Pan fyddwch yn dod â'r ddyfais yn ôl, caiff yr holl wybodaeth ei dileu o’r ddyfais cyn cael ei benthyg i'r defnyddiwr nesaf.
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â'ch cangen llyfrgell leol i drefnu benthyciad.