Cost of Living Support Icon

Ffioedd a Phrisiaufees and charges

Gwybodaeth am ffioedd a phrisiau yn llyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Bydd benthyca llyfrau a chyrchu’r rhyngrwyd wastad am ddim yn ein llyfrgelloedd ni, yn ogystal â lawrlwytho e-lyfrau, e-gylchgronau a llyfrau sain digidol.

 

Fodd bynnag, mae rhai taliadau sy’n gysylltiedig ag aelodaeth llyfrgell y dylech fod yn ymwybodol amdanynt. 

 

Eitemau hwyr

Llyfrau 

60c yr wythnos neu ran ohoni (hyd at uchafswm o £6 am bob eitem). Ni chodir tâl am eitemau plant).

Llyfrau Llafar 

60c yr wythnos neu ran ohoni (hyd at uchafswm o £6 am bob eitem). Ni chodir tâl am eitemau plant).

Disgiau Ffilm (DVDs)

60c yr wythnos neu ran ohoni (hyd at uchafswm o £6 am bob eitem).

Prisiau llogi

Llyfrau Llafar

£1.80 am dair wythnos (ni chodir tâl am eitemau plant nac ar bobl sydd yn ddall neu sy’n methu darllen print arferol) 

Llungopïo 

Du a gwyn   

A4 - 20c y ddalen    

A3 - 30c y ddalen

Lliw 

A4 - 40c y ddalen

A3 - 50c y ddalen

Argraffu

Du a gwyn   

A4 - 20c y ddalen    

A3 - 30c y ddalen

Lliw 

A4 - 40c y ddalen

A3 - 50c y ddalen

 

 

Ceisiadau 

Eitemau sydd mewn stoc neu ar gael yng Nghymru: yn rhad ac am ddim


Eitemau o’r tu allan i Gymru: £6.00

 

Erthygl cyfnodolyn a geir y tu allan i Gymru: £4.00

 

Eitemau ansafonol a geir y tu allan i Gymru,

e.e setiau cerddorfa, setiau sgript chwarae, neu setiau aml-ran eraill: Pris Ar Gais, (fesul set)

Eitemau Coll neu wedi’u Niweidio 

 

Llyfrau, Llyfrau Llafar, Disgiau Ffilm etc. 

Y pris manwerthu a nodir yng nghatalog y llyfrgell ynghyd ag isafswm ffi o £5.00  

Cerdyn Llyfrgell

Os ydych chi wedi colli’ch cerdyn llyfrgell, gallwch chi brynu un newydd am £2 yn unig.

Amrywiol

Lamineiddio

£1.50 i argraffu a lamineiddio un ddalen A4, £2.00 y ddalen am A3, ac unrhyw dâl llungopïo neu argraffu ar ben hynny.

Ffioedd Hysbysebu

£15.00 y mis neu ran ohono am gardiau busnes lleol neu unrhyw hysbysebion masnachol lleol, annibynnol.

Gweithgareddau Celf a Chrefft

50c y pen i bob plentyn sy’n gwneud gweithgaredd crefft pan ddefnyddir deunyddiau crefft.

Gweithgareddau a Digwyddiadau i Oedolion 

Mae pris digwyddiadau awduron ac eraill yn amrywio rhwng punt a phumpunt.