Methu â thalu Ardrethi Busnes
Os na thalwch erbyn y dyddiad terfynol, byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa. Mae’n rhaid i chi dalu o fewn saith diwrnod wedi’r nodyn atgoffa. Bydd peidio â thalu o fewn saith diwrnod wedi'r nodyn atgoffa yn golygu y bydd y balans llawn yn daladwy a bydd hysbysiad terfynol yn cael ei gyflwyno. Os na thelir y swm llawn, byddwn yn cyhoeddi gwŷs a chodir costau.
Yna, os na chaiff y taliad ei wneud yn llawn gyda chostau'r gwŷs, gwneir cais am Orchymyn Dyled. Gwneir hyn yn eich absenoldeb os nad ewch i’r llys ynadon.
Os na thalwch y swm yn llawn na chysylltu â'r swyddfa dreth o fewn y 14 diwrnod canlynol, efallai y byddwn yn defnyddio asiantaeth orfodi i adennill y ddyled. Yna, byddwch yn mynd i gostau pellach ar gyfer pob Gorchymyn Dyled a anfonir, yn unol â'r atodlen isod.
Debt recovery fees
Cyfnod Ffioedd | Ffi Sefydlog | % y ffi am swm sy'n fwy na £1,500(mae hyn yn ychwanegol at y ffi sefydlog) |
Cam Cydymffurfio |
£75.00 |
0% |
Cam Gorfodi |
£235.00 |
7.5% |
Cam Gwerthu neu Waredu |
£110.00 |
7.5% |
Mae Rheoliadau Meddiannu Nwyddau (Ffioedd) Ionawr 2014 Deddf Llysoedd Tribiwnlysoedd 2007 yn pennu'r ffioedd uchod. Felly, nid oes modd eu negodi.