Y Broses Ymgeisio
Os ydych yn ystyried sefydlu sw, dylech gysylltu â'r awdurdod trwyddedu yn y lle cyntaf am gyngor ac arweiniad. Rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o'ch bwriad i ymgeisio. Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi ar y safle a’i gyhoeddi mewn papur newydd lleol a chenedlaethol. Gellir ymgeisio am ddeufis ar ôl rhoi hysbysiad.
Rhaid i’r hysbysiad i’r awdurdod lleol gael ei gyflwyno gyda:
- Ffurflen gais berthnasol
- Cynllun safle/lleoliad
- Cynllun yn dangos gosodiad arfaethedig y sw
- Caniatâd cynllunio
- Cynllun lletya anifeiliaid
- Cynllun o fynedfeydd ac allanfeydd
- Rhestr stoc
- Hysbysiad i’r wasg
- Tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- Tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyflogwr
Ar ôl i’r cyfnod rhybudd o ddeufis basio, gellir cyflwyno cais gyda:
- Ffi berthnasol
- Ffurflen gais berthnasol
- Hysbysiad o fwriad a gyhoeddwyd yn y wasg
- Hysbysiad o fwriad a arddangoswyd ar y safle
- Rhestr stoc ddiwygiedig
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori â’r heddlu, yr awdurdod tân, corff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â sŵau, yr awdurdod ffiniol os yw’r sw yn ardal yr awdurdod hwnnw, ac unrhyw berson sydd am wrthwynebu ar sail effaith niweidiol honedig ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn yr ardal.
Bydd yr awdurdod yn trefnu archwiliad gan archwilydd ymgynghorol allanol o’r rhestr o archwilwyr addas a enwebwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Cyn y gall Cyngor Bro Morgannwg ganiatáu trwydded ar gyfer sw yn ei ardal, rhaid iddo fod yn fodlon:
- na fydd y sefydliad yn cael effaith niweidiol ar iechyd a diogelwch pobl sy’n byw yn y gymdogaeth
- na fydd y sefydliad yn effeithio ar gyfraith a threfn
- bod y llety, y staff a’r trefniadau rheoli yn briodol mewn perthynas â gofal a lles yr anifeiliaid
Bydd yr archwilydd yn llunio adroddiad o’i ganfyddiadau ac, yn seiliedig ar yr adroddiad ac unrhyw ystyriaethau eraill, bydd yr awdurdod lleol yn caniatáu neu’n gwrthod trwydded. Gall y broses hon gynnwys penderfyniad gan Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor. Os caiff trwydded ei gwrthod, bydd y gweithredwr yn cael datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros wrthod.
Trwyddedau
Bydd pob trwydded wreiddiol yn rhedeg am bedair blynedd. Bydd adnewyddiadau olynol yn rhedeg am chwe blynedd. Gallai unrhyw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle fod yn annilys os byddwch yn methu â gwneud cais i adnewyddu neu'n cyflwyno cais yn hwyr.
Rhaid arddangos copi o'r drwydded yn holl fynedfeydd cyhoeddus y sefydliad.
Gall newidiadau i’r drwydded, er enghraifft newid enw, a newidiadau o ran perchnogaeth gael eu gwneud ar gais y gweithredwr, a gall trwydded gael ei throsglwyddo i berson arall gyda chaniatâd Cyngor Bro Morgannwg.
Os bydd deiliad trwydded yn marw, cynrychiolwyr personol yr ymadawedig fydd y deiliaid am gyfnod o dri mis wedi’r farwolaeth, neu’n hirach gyda’n cymeradwyaeth.
Ar gyfer sŵau bach neu sw sydd ond yn arddangos nifer fach o wahanol fathau o anifeiliaid, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i lacio gofynion y Ddeddf. Gall yr awdurdod lleol ofyn i’r Ddeddf beidio â bod yn berthnasol o gwbl (Adran 14(1)(a)) neu i hepgor categori archwilio penodol (Adran 14(1)(b)).
Fel arall, gall gweithredwr y sw, wrth wneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol am drwydded sw, gael goddefeb (Adran 14(2)) i leihau nifer yr archwilwyr i lefel resymol ar gyfer sefydliad bach. Ni fydd hyn yn cwtogi rhwymedigaethau’r sw i gyrraedd y lefelau lles anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd a nodir yn Safonau’r Ysgrifennydd Gwladol.
Adnewyddu
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi o leiaf naw mis o rybudd i ddeiliad y drwydded o ddyddiad dod i ben y drwydded. Dylai’r cais i adnewyddu’r drwydded gael ei wneud o leiaf chwe mis cyn dyddiad dod i ben y drwydded. Os caiff cais ei wneud o leiaf chwe mis cyn i’r drwydded ddod i ben, gall Cyngor Bro Morgannwg ymestyn trwydded heb archwiliad am hyd at chwe blynedd, yn dechrau ar ddyddiad dod i ben y drwydded wreiddiol.