Y Broses Ymgeisio
I wneud cais mae’n rhaid i chi gyflwyno:
- ffurflen gais briodol
- y drwydded safle (neu ran briodol y drwydded) neu, os nad yw hynny'n ymarferol, trwy ddatganiad o'r rhesymau dros fethu darparu'r drwydded (neu ran ohoni).
- y ffi ofynnol (ffi am wneud cais yw hon na ellir ei had-dalu)
- ffurflen cydsynio wedi’i llofnodi gan ddeiliad y drwydded eiddo bresennol neu ddatganiad o ran pam nad yw'n amgaeedig
- Prawf o hawl i fyw a gweithio – Gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth
Os oes gennych drwydded am beiriant hapchwarae neu os ydych chi wedi rhoi hysbysiad ar gyfer defnyddio gemau hapchwarae yn eich safle bydd hefyd angen i chi wneud cais am hysbysiad neu drwydded newydd
Rhaid gwneud cais i drosglwyddo trwydded safle i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle lleolir y safle.
Mae’r Ddeddf hon yn darparu mecanwaith, sy’n galluogi'r trosglwyddiad i ddod i rym dros dro yn syth cyn gynted ag y mae’r awdurdod trwyddedu yn ei dderbyn, nes bydd yn cael ei bennu neu ei ddiddymu'n ffurfiol. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau nad oes unrhyw ymyrraeth i fusnes arferol yn yr eiddo.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd anfon cais am drosglwyddo trwydded safle i’r awdurdod trwyddedu yng Nghyngor Bro Morgannwg ac un at brif swyddog yr heddlu/ Swyddfa Gartref. Os yw’n gwneud cais trwy UKWelcomes neu FS4B bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am anfon copi o’r cais i’r heddlu/Swyddfa Gartref.
Mae gan Brif Swyddog yr Heddlu/Swyddfa Gartref 14 diwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y cânt wybod amdano, i ystyried y trosglwyddiad.
Gallant naill ai:
- cyhoeddi hysbysiad gwrthwynebu os byddant yn credu bydd y trosglwyddiad o bosibl yn tanseilio’r *amcan atal troseddau fel y rhestrir yn Neddf Trwyddedu 2003 neu
- beidio â gwrthwynebu’r cais
Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, bydd yr awdurdod trwyddedu yn trosglwyddo'r drwydded yn unol â'r cais, diwygio'r drwydded yn unol â hynny a'i chyflwyno i'r deiliad newydd. Fel arfer caiff hyn ei wneud o fewn 7 niwrnod o gau’r cyfnod ymgynghori 14 diwrnod.
Felly, ni ddisgwylir iddo gymryd mwy na 21 diwrnod yn olynol i ymdrin â chais am drosglwyddo (os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad), gan ddechrau gyda derbyn y gwaith papur cywir (gan gynnwys prif swyddog yr heddlu/ Swyddfa Gartref) a'r ffi cysylltiedig.
Os caiff gwrthwynebiad ei dderbyn gan brif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref, gwneir trefniadau i Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor glywed y cais a’r hysbysiad gwrthwynebu o fewn 20 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y cyfnod y mae gan brif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref hawl i roi hysbysiad.
Gwneud Penderfyniad
Os caiff y cais ei gymeradwyo neu ei wrthod, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd, a phrif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref.
Pan fydd gwrandawiad, mae’n rhaid i’r pwyllgor roi rhesymau clir a chynhwysfawr dros bennu’r trosglwyddiad yn y pen draw Mae manylion ynghylch dyddiad ac amser y gwrandawiad ynghyd â manylion y gweithdrefnau sydd i’w dilyn i gael eu hanfon at yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu/ y Swyddfa Gartref o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad.
Rhaid i’r ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu/ Swyddfa Gartref roi gwybod i Gyngor Bro Morgannwg o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dechrau’r gwrandawiad yn nodi:
- p'un ai a ydynt yn bwriadu mynychu'r gwrandawiad eu hunain
- p’un ai a fydd rhywun arall yn eu cynrychioli (e.e. cyfreithiwr / cynghorydd / AS)
- p'un ai a ydynt yn credu nad oes angen cynnal gwrandawiad (er enghraifft, os daethpwyd i gytundeb cyn gwrandawiad ffurfiol)
- Unrhyw gais i berson arall fynychu’r gwrandawiad, gan gynnwys sut y gallant fod o fudd i’r awdurdod trwyddedu o safbwynt y cais
Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, oni bai bod yr awdurdod trwyddedu, yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu / y Swyddfa Gartref (a roddodd wybod) yn cytuno drwy gytuno nad oes angen gwrandawiad.
Os bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen, byddai ystyriaeth y pwyllgor yn gyfyngedig i gyhoeddi Amcan Atal Troseddau yn unig.
Byddai’r baich ar brif swyddog yr heddlu/ y Swyddfa Gartref i ddangos i’r pwyllgor bod seiliau da dros gredu y byddai trosglwyddo'r drwydded yn tanseilio'r Amcan Atal Troseddau. Yn yr achos hwn, byddai’r pwyllgor yn gwrthod y trosglwyddiad. Fel arall câi’r trosglwyddiad ei gymeradwyo.