Tramgwyddau a Chosbau
1) Mae'r adran hon yn berthnasol pryd bynnag mae eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy sydd neu yr honnir eu bod yn weithgareddau dros dro a ganiateir dan ddarpariaethau’r Rhan hon.
(2) Rhaid i ddefnyddiwr yr eiddo naill ai-
(a) sicrhau bod copi o'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos yn amlwg yn yr eiddo, neu
(b) fodloni gofynion is-adran (3).
(3) Mae gofynion yr is-adran hon yn mynnu bod defnyddiwr yr eiddo
(a) yn sicrhau bod yr hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei gadw yn yr eiddo -
(i) dan ei ofalaeth ef neu
(ii) yng ngofalaeth person sy'n bresennol ac yn gweithio yn yr eiddo ac yn un y mae defnyddiwr yr eiddo wedi ei enwebu at ddibenion yr adran hon, a
(b) pan fo'r hysbysiad digwyddiad dros dro yng ngofalaeth person sydd wedi'i enwebu fel hyn, sicrhau bod hysbysiad yn nodi'r ffaith hon a swyddogaeth y person hwnnw yn cael ei arddangos yn amlwg yn yr eiddo.
(4) Mae defnyddiwr yr eiddo’n cyflawni trosedd os ydyw’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag is-adran (2).
(5) Os -
(a) nad yw'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos fel y crybwyllir yn is-adran (2), a
(b) nad oes unrhyw hysbysiad yn cael ei arddangos fel y crybwyllir hynny yn is-adran (3) (b),
yna gall cwnstabl neu swyddog ag awdurdod fynnu bod y defnyddiwr eiddo yn dangos yr hysbysiad digwyddiad dros dro i bwrpas ei archwilio.
(6) Pan fo hysbysiad yn cael ei arddangos fel y crybwyllir hynny yn is-adran (3) (b), yna gall cwnstabl neu swyddog ag awdurdod fynnu bod y person a nodir yn yr hysbysiad hwnnw yn dangos yr hysbysiad digwyddiad dros dro i bwrpas ei archwilio.
(7) Bydd raid i swyddog ag awdurdod sy'n defnyddio’r pŵer a roddir dan is-adran (5) neu (6), os gofynnir iddo, ddangos tystiolaeth yn brawf o’r awdurdod sydd ganddo i ddefnyddio’r pŵer.
(8) Mae person yn cyflawni trosedd pan fo’n methu, heb esgus rhesymol, â dangos hysbysiad digwyddiad dros dro yn unol â gofyniad dan is-adran (5) neu (6).
(9) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy hyd at lefel 2 ar y raddfa safonol.
(10) Yn yr adran hon ystyr "swyddog ag awdurdod" yw’r ystyr sydd yn adran 108(5).