Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 Rhan VIII yn mynnu y dylid cofrestru’r mathau canlynol o dyllu’r croen gyda’r Cyngor.
- Nodwyddo
- Tatŵio
- Lliwio’r croen yn lled-barhaol
- Tyllu cosmetig
- Electrolysis
Mae'n ofynnol dan y ddeddf bod y person sy’n ymarfer a’r safle ill dau wedi eu cofrestru er y diben hynny. Does dim grymoedd i wrthod cofrestru, ond rheolir yr ymarfer trwy fynnu cydymffurfiaeth ag is-ddeddfau ym mhob achos.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod y gweithdrefnau a’r cyfleusterau’n ddiogel, yn hylan, yn atal lledaenu afiechydon ac yn cydymffurfio’n llawn â’r dyletswydd gofal cyffredinol sy’n ofynnol gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac Ati 1974.
Mae hi’n anghyfreithlon tyllu clustiau, tatŵio, nodwyddo, lliwio'r croen yn lled-barhaol neu wneud electrolysis oni bai fod y cofrestriad wedi ei gymeradwyo'n llawn.