Cefndir a Meini Prawf Cymhwyster
Mae Trwydded Casgliad Stryd yn rhoi awdurdodiad i gasglu arian neu werthu eitemau at ddibenion elusennol. Os gwelwch yn dda byddwch yn ymwybodol os yr ydych eisiau darparu 'adloniant rheoledig' wrth wneud eich casgliad efallai y byddwch hefyd angen Trwydded Eiddo neu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Stryd: Mae'r ymadrodd 'stryd' yn cynnwys unrhyw briffordd ac unrhyw bont gyhoeddus, ffyrdd, tir, troedffordd, sgwâr, cwrt, llwybr, neu goridor, boed yn dramwyfa neu beidio.
Dibenion elusennol: Ceir ystyr cyffredin 'dibenion elusennol' yn Neddf Elusennau 1960, a40, sef dibenion 'sy'n elusennol yn unig yn ôl cyfraith Cymru a Lloegr’. Awgrymir, fodd bynnag, na ddylid dehongli’r adran hon yn llym ac yn wir ceir ystyr ehangach i 'ddibenion elusennol' yn a11Deddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939 sy'n datgan bod 'dibenion elusennol' yn golygu unrhyw ddiben elusennol, llesiannol neu ddyngarol p’un a yw'r diben yn elusennol neu beidio o fewn ystyr unrhyw reol gyfreithiol.
Man cyhoeddus: Mae Cyngor Bro Morgannwg o'r farn mai ‘man cyhoeddus' yw un lle mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddo ac nid mynediad fel mater o ffaith.
Mae'n debygol y byddai angen trwydded i sefyll mewn drws siop os yw arian yn cael ei gasglu oddi wrth bobl wrth iddynt fynd i lawr y stryd. Fodd bynnag, ni fyddai angen trwyddedau ar gyfer casgliad a wneir tu mewn i siop, tŷ, lle gwaith neu fusnes h.y. mewn tafarn, neu gyntedd sinema neu theatr.
Sylwch os ydych yn casglu o un tafarn i’r llall, byddwch angen Trwydded Casgliad o Dŷ i Dŷ.