Troseddau a Dirwyon
Bydd person sydd:
- yn fwriadol yn defnyddio neu’n achosi neu’n caniatáu defnydd o unrhyw safle, cerbyd, cynhwysydd neu stondin, ac eithrio o dan ac yn unol â thelerau trwydded
- fel deiliad trwydded sefydliad rhyw, yn cyflogi yn y busnes neu’r sefydliad unrhyw berson y mae’n gwybod ei fod wedi’i wahardd rhag dal trwydded o’r fath
- fel deiliad trwydded neu wasanaethwr neu asiant deiliad trwydded, heb esgus rhesymol, yn fwriadol yn mynd yn groes i delerau, amodau neu gyfyngiadau a nodir yn y drwydded, neu’n caniatáu hynny
- mewn cysylltiad â chais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, yn gwneud datganiad y mae’n gwybod neu’n credu ei fod yn ffug mewn unrhyw ffordd berthnasol, yn euog o drosedd
- heb esgus rhesymol, yn caniatáu yn fwriadol i berson dan 18 oed gael mynediad i sefydliad
- yn cyflogi person y mae’n gwybod ei fod dan 18 oed ym musnes y sefydliad
yn euog o drosedd sy’n ddarostyngedig, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy nag £20,000.
Bydd person sy’n methu ag arddangos copi o’r drwydded ac unrhyw amodau yn y safle yn euog o drosedd ac yn ddarostyngedig, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1000 ar hyn o bryd).
Bydd person sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod caniatáu i gwnstabl neu swyddog awdurdodedig arfer pŵer mynediad dan warant, am bob gwrthodiad o'r fath yn ddarostyngedig, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd).
Lle bo trwydded yn cael ei dirymu, bydd y deiliad yn cael ei wahardd rhag dal neu gael trwydded ym Mro Morgannwg am gyfnod o 12 mis, yn dechrau ar ddyddiad y dirymiad.
Troseddau gan gyrff corfforaethol
Lle profir bod trosedd a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi’i chyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn capasiti o’r fath, bydd y person hwnnw ynghyd â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd.
Lle bo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau o fewn ardal, bydd y sefyllfa uchod yn berthnasol i weithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaeth reoli fel petai'n gyfarwyddwr ar y corff corfforaethol.