Y Broses Ymgeisio
Gellir gwneud cais am drwydded safle neu gasglwr gan unigolyn, cwmni neu bartneriaeth a rhaid ei gyflwyno ar ffurflen gais bwrpasol y cyngor.
Casglwr Metel Sgrap
I wneud cais bydd angen i chi gyflwyno:
- Ffurflen gais berthnasol wedi ei chwblhau
- Ffi berthnasol
- Datgeliad elfennol nad yw’n fwy na 3 mis oed
- Trwydded Amgylcheddol berthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru
- 2 lun pasbort
- Prawf ffotograffig (e.e. pasbort, trwydded yrru)
- Prawf o'ch enw a’ch cyfeiriad cartref nad sy’n fwy na 3 mis oed (e.e. bil trydan/nwy/dŵr)
Rhaid i’r dogfennau adnabod a’r datgeliad uchod gael eu cyflwyno ar gyfer pob person sydd wedi ei enwi ar y ffurflen gais e.e. partneriaid, cyfarwyddwyr, ysgrifenyddion cwmnïau.
Unwaith i’r holl ddogfennau angenrheidiol gael eu dewis bydd ymgynghoriad 14 diwrnod yn cychwyn gyda’r Heddlu, Cynllunio a Safonau Masnach, a hynny ar y diwrnod wedi i’r Awdurdod Trwyddedu eu derbyn.
Nodwch os dyfernir trwydded Casglwr i chi, bydd hyn eich galluog i gasglu Metel Sgrap (gan gynnwys cerbydau modur) o fewn ardal Bro Morgannwg.
Os dymunwch gasglu mewn unrhyw Awdurdod Lleol arall bydd gofyn i chi gael trwydded ar wahân ar gyfer pob ardal. Bydd pob trwydded gaiff ei chaniatáu yn ddilys am dair blynedd.
Safle Metel Sgrap
I wneud cais rhaid cyflwyno’r canlynol:
- Ffurflen gais berthnasol wedi ei chwblhau
- Ffi berthnasol
- Trwydded Amgylcheddol berthnasol – bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu helpu)
- Datgeliad elfennol nad yw’n fwy na 3 mis oed ar gyfer pob person sydd wedi ei enwi ar y cais (e.e. cyfarwyddwyr, ysgrifennydd, rheolwr safle)
- Prawf ffotograffig (e.e. pasbort, trwydded yrru) ar gyfer pob person wedi ei enwi ar y cais (e.e. cyfarwyddwyr, ysgrifennydd, rheolwr safle)
Unwaith i’r holl ddogfennau angenrheidiol gael eu dewis bydd ymgynghoriad 14 diwrnod yn cychwyn gyda’r Heddlu, Cynllunio a Safonau Masnach, a hynny ar y diwrnod wedi i’r Awdurdod Trwyddedu eu derbyn. Ar ôl cwblhau’r prosesu bydd Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi manylion unigolion sydd â thystysgrif cofrestru sy’n ddilys am dair blynedd.
Newid cofrestriad sy’n bodoli eisoes
Rhaid hysbysu’r Cyngor o fewn 28 diwrnod o unrhyw newid i berson cofrestredig neu fanylion busnes, neu os yw’r busnes yn peidio gweithredu.