Y Broses Ymgeisio
Pwyllgor rheoli’r safle yn unig a all wneud cais dan y weithdrefn hon. Rhaid i'r ymgeiswyr roi enwau prif swyddogion y pwyllgor rheoli ar y ffurflen gais. Rhaid i’r awdurdod trwyddedu fod yn fodlon bod y trefniadau ar gyfer rheoli’r safle gan y pwyllgor neu fwrdd yn ddigonol i sicrhau y goruchwylir gwerthu alcohol ar y safle'n ddigonol.
Ceisiadau newydd ar gyfer trwydded safle (safle cymunedol)
Dylai’r safleoedd cymunedol hynny sydd am wneud cais am awdurdod i werthu alcohol am y tro cyntaf gynnwys y canlynol:
- ffurflen ar gyfer dileu’r gofyniad ar gyfer Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig
- cais newydd am drwydded safle neu gais i amrywio
-
- Nid oes angen ffi heblaw am y ffi ar gyfer cais newydd neu amrywiad, y mae'r ddau ohonynt yn seiliedig ar werth ardrethol.
Safle cymunedol gyda thrwydded safle cyfredol i werthu alcohol
Nid yw safleoedd cyfredol wedi’u heithrio o ofynion amodau gorfodol o ran Goruchwylwyr Safleoedd Dynodedig a thrwyddedau personol. Os oes gan safle cymunedol drwydded safle i werthu alcohol yn barod, a’i fod am fanteisio ar ofynion mwy llac o ran Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig, dylai’r pwyllgor rheoli wneud cais i gynnwys yr amod trwydded arall yn lle’r amod gorfodol arferol trwy gyflwyno’r ffurflen ddynodedig ynghyd â’r ffi ddynodedig.