Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd
Rhaid i ddeiliad trwydded safle, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i'r awdurdod trwyddedu perthnasol am unrhyw newid:
- I’w henw neu gyfeiriad
- Oni bai bod y goruchwyliwr safle dynodedig eisoes wedi rhoi gwybod i’r awdurdod, enw neu gyfeiriad y goruchwyliwr hwnnw
Lle nad y goruchwyliwr safle dynodedig dan drwydded safle yw deiliad y drwydded, gallai roi gwybod i’r awdurdod trwyddedu perthnasol am unrhyw newid o ran ei enw neu gyfeiriad.
Pan fo’r goruchwyliwr safle dynodedig yn rhoi hysbysiad dan isadran, rhaid iddo, cyn gynted ag sy’n ymarferol rhesymol, roi copi o’r hysbysiad hwnnw i ddeiliad y drwydded safle.