Mae’r amgylchiadau hyn yn codi pan fo trwydded safle wedi dod i ben oherwydd marwolaeth, methiant neu ansolfedd deiliad y drwydded. Gallwch hysbysu'r awdurdod trwyddedu o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r drwydded ddod i ben ynghyd â’r ffi perthnasol. Nid oes modd ad-dalu’r ffi hwn. Dylai Prif Swyddog yr Heddlu gael copi o hwn hefyd, Swydda Gartref.
- Prawf o hawl i fyw a gweithio – Gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth
Os rydych yn gwneud cais ar-lein drwy UKWelcomes neu Flexible Support for Business, Cyngor Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am anfon copi ymlaen at Brif Swyddog yr Heddlu, Swydda Gartref.
Ni fyddai'r drwydded safle yn ddilys nes y derbynnir hysbysiad o'r fath a byddai ymgymryd â gweithgareddau trwyddedadwy yn ystod y cyfnod hwnnw yn anghyfreithlon. Bydd gweithgareddau o’r fath yn drosedd fel gweithgaredd trwyddedadwy anawdurdodedig, ac mae modd honni bod hyn yn 'diwydrwydd dyladwy’. Gall hyn fod yn berthnasol pan fydd rheolwr safle penodol yn gwbl anymwybodol am gyfnod o amser bod deiliad y drwydded safle wedi marw.
Cyn gynted ag y bydd hysbysiad awdurdod dros dro wedi’i gyflwyno o fewn y cyfnod 28 diwrnod, gall y busnes barhau ag unrhyw weithgareddau trwyddedadwy a ganiateir yn y drwydded safle.
Dim ond person sydd â buddiant penodol yn y safle gall gyflwyno hysbysiad dros dro, neu berson sy'n gysylltiedig â chyn-ddeiliad y drwydded (fel arfer cynrychiolwr personol cyn-deiliad y drwydded neu berson sydd ag atwrneiaeth ar ei ran neu ymarferydd ansolfedd y person os ydyw wedi dod yn fethdalwr).
Nod cyflwyno’r hysbysiad yw i adfer y drwydded eiddo fel mai’r person sy’n cyflwyno’r hysbysiad yw deiliad y drwydded ac felly bydd modd i weithgareddau trwyddedadwy ddigwydd yn y safle yn ddibynnol ar gais neu drosglwyddiad ffurfiol.
Tri mis yw’r cyfnod mwyaf y gall hysbysiad awdurdod dros dro fod ar waith.
Ni fydd yr hysbysiad awdurdod dros dro yn berthnasol oni bai bod prif swyddog yr heddlu wedi derbyn copi o’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod 28 diwrnod cychwynnol. O fewn 48 awr o dderbyn y copi, ac os yw'r heddlu'n credu y byddai methu â chanslo'r awdurdod dros dro mewn amgylchiadau eithriadol yn tanseilio'r amcan atal troseddu, gall yr heddlu gyflwyno hysbysiad yn sgil hynny i'r awdurdod trwyddedu. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad i ystyried yr hysbysiad gwrthwynebu os yw'n penderfynu ei bod hi'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo'r amcan atal troseddu.
Bydd yr awdurdod trwyddedu'n ymwybodol o pa mor frys yw'r sefyllfa a'r ffaith bod angen ystyried y gwrthwynebiad yn gyflym.