Cost of Living Support Icon

Storio Petroliwm

Mae angen trwyddedu gwirod petroliwm i sicrhau bod y rhai sy’n cadw a dosbarthu petrol yn gwneud hynny mewn modd diogel sy'n annhebygol o beri risg i'r cyhoedd na'r amgylchedd.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Rhaid gwneud cais am ganiatâd neu adnewyddiad drwy ddefnyddio ffurflen gais berthnasol a chynnwys y ffi berthnasol.

 

Rhaid i geisiadau grant hefyd gynnwys llun o:

  • gynllun y safle dosbarthu
  • y system cyfyngiant petrol ar y safle dosbarthu, gan gynnwys tanciau storio a phibellau
  • system ddraenio ar gyfer petrol yn yr adeilad dosbarthu

Mae storio gwirod petroliwm a chymysgeddau angen tystysgrif drydanol ar gyfer gosodiadau newydd ac arolygiadau blynyddol o osodiadau presennol - rhaid i hyn gael ei ddarparu gan drydanwr cymwys a phrofiadol.

 

Caniatâd dealledig

Na. Mae er budd y cyhoedd bod yr awdurdod yn gorfod prosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

 

Yr amser targed yw 60 diwrnod calendr 

    

Ffioedd

Trwydded i gadw gwirod petroliwm o swm heb fod yn fwy na 2,500 litr

 

 1 flwyddyn     £48.00 

 2 flynedd       £96.00

 3 blynedd    £144.00

 4 blynedd    £192.00

 5 mlynedd   £240.00

 6 blynedd    £288.00

 7 mlynedd   £336.00 

 8 mlynedd   £384.00

 9 mlynedd   £432.00

10 mlynedd  £480.00

 

Trwydded i gadw gwirod petroliwm o swm mwy na 2,500 o litrau ond heb fod yn fwy na 50,000 o litrau

 1 flwyddyn     £65.00 

 2 flynedd     £130.00

 3 blynedd    £195.00

 4 blynedd    £260.00

 5 mlynedd   £325.00

 6 blynedd    £390.00

 7 mlynedd   £455.00

 8 mlynedd   £520.00

 9 mlynedd   £585.00

10 mlynedd  £650.00

 

Trwydded i gadw gwirod petroliwm o swm mwy na 50,000 o litrau

 1 flwyddyn     £137.00 

 2 flynedd       £274.00

 3 blynedd      £411.00

 4 blynedd      £548.00

 5 mlynedd     £685.00

 6 blynedd      £822.00

 7 mlynedd     £959.00

 8 mlynedd   £1096.00

 9 mlynedd   £1233.00

10 mlynedd  £1370.00

 

Gall ymweliadau a wneir yn rhannol neu’n gyfan gwbl y tu allan i oriau swyddfa arferol olygu y codir gordal o 50% ar y ffi safonol neu ar y gyfradd awr safonol fesul swyddfa fesul awr.

  

Cwynion ac Iawn arall

Iawn pan fo Cais yn Methu: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisiydd apelio i’r Ysgrifennydd Gwladol.

 

Iawn i Ddeiliad Trwydded: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Cwynion Defnyddwyr: Edrychwch ar ein gweithdrefn cwynion defnyddwyr