Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd
Gall person (sy’n cynnwys busnes neu gwmni) â buddiant eiddo mewn unrhyw safle yn ardal yr awdurdod trwyddedu hysbysu eu buddiant i’r awdurdod drwy gyflwyno'r ffurflen berthnasol a’r ffi berthnasol.
Ymhlith y sawl a all fanteisio ar y trefniant hwn mae:
- y rhydd-ddeiliad
- y lesddeiliad
- morgeisai cyfreithiol yr eiddo
- person sy’n byw yn yr eiddo
- unrhyw berson arall fel y rhagnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol
Mae cofrestru’n ddewisol ac felly nid yw’n ofyniad cyfreithiol.
Bydd yr hysbysiad ar waith am 12 mis, ond mae modd cyflwyno un newydd bob blwyddyn.
Tra ei fod ar waith, os gwnaed unrhyw newid i’r safle i’r gofrestr gyhoeddus trwyddedu rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r person a gofrestrodd fuddiant o’r mater y mae’r newid yn ymwneud ag ef.
Caiff y person hefyd wybod am eu hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth a gofnodir ar y gofrestr.
Mewn achosion sy’n ymwneud â hysbysiadau dros dro, bydd yr awdurdod trwyddedu’n sicrhau bod gohebiaeth o’r fath yn cael ei delio â hi’n brydlon.