1. Rhaid i ddeiliad y caniatâd sicrhau bod yna unigolyn wedi ei bennu sydd â chyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r amodau hyn (“y person cyfrifol”) a bod swydd y person, ei statws o ran cyfrifoldeb o safbwynt y safle, neu ffactorau eraill (ei “gymhwyster”), yn dynodi ei fod mewn sefyllfa i gydymffurfio â’r amodau hyn.
2. Bydd y person cyfrifol neu, yn ei absenoldeb, dirprwy cymwys addas wedi ei benodi ganddo, ar gael ar y safle am o leiaf awr cyn a thrwy gydol pob un elfen o’r digwyddiad.
3. Rhaid i’r deiliad hysbysu’r awdurdod -
(a) o’i enw a’i gyfeiriad yn union wedi iddo ddod yn ddeiliad caniatâd dan reol 7(2); a
(b) o enw, cyfeiriad a chymhwyster y person cyfrifol yn syth wedi i berson cyfrifol newydd gael ei benodi.
4. Rhaid i’r deiliad hysbysu’r awdurdod yn syth o unrhyw newid i unrhyw un o’r canlynol -
(a) gosodiad y safle, fel y dangoswyd yn y cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais a gymeradwywyd, neu yn y defnydd a wneir o’r safle;
(b) enw neu gyfeiriad llawn y safle cymeradwy;
(c) disgrifiad o’r ystafell neu ystafelloedd lle mae’r digwyddiadau i ddigwydd;
(d) enw a chyfeiriad deiliad y caniatâd; a
(e) enw, cyfeiriad neu gymhwyster y person cyfrifol
5. Rhaid i’r safle cymeradwy fod ar gael i’w archwilio ar bob adeg resymol gan yr awdurdod.
6. Rhaid dangos hysbysiad addas ger pob mynedfa gyhoeddus i’r safle awr cyn y digwyddiad yn nodi fod y safle wedi ei gymeradwyo ar gyfer y digwyddiad gan nodi a rhoi cyfarwyddiadau i’r ystafell lle mae’r digwyddiad i gael ei gynnal.
7. Ni cheir gwerthu na bwyta bwyd na diod yn yr ystafell lle mae’r digwyddiadau i gael eu cynnal am awr cyn nac yn ystod y digwyddiadau hynny.
8. Rhaid i’r holl ddigwyddiadau gael eu cynnal mewn ystafell a nodwyd fel un a oedd i'w defnyddio i'r perwyl hwnnw ar y cynllun a gyflwynwyd gyda'r cais a gymeradwywyd.
9. Rhaid i’r ystafell lle mae’r digwyddiadau i ddigwydd fod ar wahân i unrhyw weithgaredd arall ar y safle ar adeg y digwyddiad.
10. Rhaid i gynnwys a threfniadau’r digwyddiad gael eu cymeradwyo rhag blaen gan gofrestrydd arolygol y rhanbarth, neu awdurdod cofrestru’r ardal, pa un bynnag y bo, lle mae’r safle wedi ei leoli.
11. —
Ni fydd natur grefyddol i’r digwyddiadau gaiff eu cynnal ar safle cymeradwy.
Yn benodol, ni fydd y digwyddiadau yn -
cynnwys detholiadau o wasanaeth crefyddol awdurdodedig neu o destunau crefyddol sanctaidd;
cael eu harwain gan weinidog yr efengyl neu arweinydd crefyddol arall;
cynnwys defod neu gyfres o ddefodau crefyddol;
cynnwys emynau neu lafarganu crefyddol arall; neu
unrhyw ffurf ar addoliad.
Ond gall y digwyddiadau gynnwys darlleniadau, caneuon neu gerddoriaeth sy’n cynnwys cyfeiriad achlysurol at dduw neu dduwdod mewn cyd-destun hanfodol anghrefyddol.
I’r diben hwn caiff unrhyw ddeunydd gaiff ei ddefnyddio i agor y digwyddiad, mewn unrhyw egwyl rhwng rhannau o’r digwyddiad neu wrth gloi’r digwyddiad, ei drin fel rhan o’r digwyddiadau.
12. Rhaid caniatáu mynediad cyhoeddus di-dâl i’r digwyddiadau mewn unrhyw safle cymeradwy.
13. Gall unrhyw gyfeiriad at gymeradwyaeth y safle ar unrhyw arwydd neu hysbysiad, neu ar unrhyw lythyrau neu gyhoeddiad, neu mewn unrhyw hysbyseb nodi bod y safle wedi ei chymeradwyo gan yr awdurdod fel lleoliad ar gyfer priodas yn unol ag isadran 26(1)(bb) Deddf 1949 ac ar ffurfio partneriaethau sifil dan isadran 6(3A)(a) Deddf 2004 ond ni fydd yn nodi neu awgrymu unrhyw argymhelliad ynghylch y safle neu ei adnoddau gan yr awdurdod, Y Cofrestrydd Cyffredinol neu unrhyw swyddogion neu gyflogeion o’r naill neu’r llall.
14. Os bydd newid i enw’r safle cymeradwy yn digwydd wedi cyhoeddi’r dystysgrif briodas neu ddogfen partneriaeth sifil ond cyn y digwyddiadau, bydd enw blaenorol y safle cymeradwy fel y’u cofnodwyd yn y dystysgrif briodas neu’r ddogfen bartneriaeth sifil yn parhau’n ddilys am y cyfnod ar gyfer dibenion y digwyddiadau.
Caiff yr amodau canlynol eu hatodi i’r caniatâd gan y Cyngor ac mae’n bosibl y caiff amodau pellach eu hatodi yn ôl yr angen.
15. Bydd y person(au) cyfrifol yn y lleoliad cymeradwy yn sicrhau bod dau le parcio wedi eu nodi’n glir wedi eu cadw at ddefnydd y Swyddogion Cofrestru.
16. Darperir bwrdd ac 1 gadair i’w defnyddio gan y Cofrestrydd Arolygol a’r Cofrestrydd yn yr ystafell(oedd) a gymeradwywyd.
17. Darperir seddau yn yr ystafelloedd cymeradwy ar gyfer mwyafrif y bobl a fydd yn mynychu’r briodas neu seremoni partneriaeth sifil.
18. Mae uchafswm nifer y bobl a ganiateir ym mhob ystafell fel a ganlyn:- (caiff y nifer ei roi pan gaiff y cais ei ganiatáu).