Troseddau a Chosbau
Mae’n drosedd hybu neu wneud casgliad o dŷ i dŷ at ddiben elusennol heb i’r hyrwyddwr gael trwydded yn gyntaf gan yr Awdurdod Lleol yn yr ardal y bydd y casgliad.
Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd yn ymwneud â hybu casgliad elusennol heb drwydded gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na chwech mis neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd yn ymwneud â gweithredu fel casglwr ar gyfer casgliad elusennol heb ei drwyddedu, ar gollfarn ddiannod, yn achos yr euogfarn gyntaf, gael dirwy nad yw’n fwy na £25, neu yn achos yr ail euogfarn neu un ddilynol, gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na thri mis neu ddirwy nad yw’n fwy na £50, neu’r ddau.
Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd o ran methu â chydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1947 gael, ar gollfarn ddiannod, ddirwy nad yw’n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol.
Bydd unrhyw berson, mewn cysylltiad ag unrhyw gasgliad at ddiben elusennol, sy’n arddangos neu ddefnyddio bathodyn neu dystysgrif awdurdod, nad yw’n fathodyn neu dystysgrif sydd ganddo at ddibenion yr apêl neu unrhyw fathodyn neu ddyfais, neu unrhyw dystysgrif neu ddogfen arall, sy’n debyg iawn i fathodyn penodol neu dystysgrif awdurdod penodol er mwyn twyllo, yn euog o drosedd a gall, ar gollfarn ddiannod, gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na chwe mis neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd o ran methu â datgan i gwnstabl yr heddlu ei enw a’i gyfeiriad ac i lofnodi ei enw fod yn agored, ar gollfarn ddiannod, i gael dirwy nad yw’n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol.
Os yw unrhyw berson, wrth roi unrhyw wybodaeth, yn gwneud yn ymwybodol ac yn fyrbwyll ddatganiad camarweiniol, bydd yn euog o drosedd a gall, ar gollfarn ddiannod, gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na chwe mis neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Pan brofir bod trosedd dan Ddeddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939 wedi’i chyflawni gan gorfforaeth gyda chaniatâd neu gefnogaeth unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu unrhyw swyddog arall y gorfforaeth neu o ganlyniad i esgeulustod y rhain o ran eu dyletswyddau, ystyrir ei fod/bod ef/hi, yn ogystal â'r gorfforaeth, yn euog o’r trosedd hwnnw a gellir rhoi'r gyfraith arno/arni a chaiff ei gosbi/chosbi yn unol â hynny.