Cost of Living Support Icon

Lletya Anifeiliaid yn eich Cartref

Os rydych yn dymuno cynnig cyfleusterau lletya ar gyfer cŵn pobl eraill, rhaid i chi gael trwydded dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963. Mae Trwydded Lletya Gartref yn berthnasol i sefydliadau sy’n dymuno cynnig llety yn eu hannedd breifat, yn hytrach na mewn cybiau awyr agored.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran:

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Ffurflenni Cais 

Templed Asesiad Risg                                   

 

 

Y Broses Ymgeisio

Wrth benderfynu ar gais ar gyfer trwydded Sefydliad Lletya Anifeiliaid, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried p'un ai a ydyw'r ymgeisydd yn gallu bodloni'r gofynion a nodir yn yr Amodau Safonol.

 

Er mwyn cadarnhau'r gofyniad uchod, bydd Swyddog Trwyddedu'n ymweld â'r eiddo er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r uchod. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd archwiliad milfeddygol yn cael ei gynnal.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Yn unol â Thrwydded Lletya Gartref, rhaid i’r cŵn fyw yn y cartref fel anifeiliaid anwes. Ni ddylid adeiladu adeiladau, cytiau na libartau y tu allan.

 

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a’r Ganolfan Ymgynghori ar Gathod (FAB) yn credu na ddylai cathod gael eu lletya gartref oherwydd eu natur rhydd. Credir na ddylid cefnogi’r arfer hwn.

 

Gall unrhyw un gyflwyno cais oni bai nad oes ganddo hawl i:

- gynnal sefydliad lletya dan Ddeddf Lletya Anifeiliaid 1963

- cynnal siop anifeiliaid anwes dan y Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951

- cadw anifeiliaid dan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygiad) 1954 dan adran 34(2), (3) neu (4) Deddf Llesiant Anifeiliaid 2006.

 

Mae'r Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gosod dyletswydd gofal a lles anifail ar y bobl sy'n gyfrifol am yr anifail, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol.

 

Pa mor hir mae'r drwydded yn para?

Mae trwydded yn ddilys am un flwyddyn ac yn weithredol o 1 Ionawr (neu ddyddiad a ganiatei'r ar ôl y dyddiad hwnnw) tan 31 Rhagfyr.

 

Os yw person sy’n cynnal sefydliad lletya anifeiliaid yn marw, bydd y drwydded yn cael ei throsglwyddo i’w gynrychiolwyr personol ac yn parhau’n weithredol hyd at ddiwedd cyfnod o dri mis ar ôl dyddiad y farwolaeth. Bydd yn dod i ben wedi hynny.

 

Gall Cyngor Bro Morgannwg ymestyn y cyfnod hwn os nad yw’n credu bod ymestyn yn angenrheidiol er mwyn dirwyn-i-ben ystâd y person sydd wedi marw, ac nad oes unrhyw amgylchiadau eraill yn gwneud hyn yn anaddas.

 

Amodau

Mae amodau safonol yn berthnasol i'r holl Drwyddedau Lletya Gartref. Efallai y bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn gosod amodau ychwanegol os oes angen.

 

 

Ffioedd

Cais am drwydded lletya gartref £155.00

 

Bydd deiliad y drwydded yn gorfod talu’r holl gostau sydd ynghlwm wrth benderfynu ar drwydded neu unrhyw gostau milfeddygol o ganlyniad i waith Cyngor Bro Morgannwg yn ystod cyfnod y drwydded. 

 

Troseddau a Dirwyon

Mae’r troseddau a’r dirwyon canlynol yn berthnasol i gynnal sefydliad lletya anifeiliaid:

 

- bydd unrhyw un sy'n euog o gynnal sefydliad lletya anifeiliaid heb drwydded yn destun dirwy a fydd ddim mwy na lefel 2 ar y raddfa safonol neu dri mis yn y carchar neu'r ddau;

- bydd unrhyw un sy’n euog o beidio â chydymffurfio ag amodau ei drwydded yn destun dirwy a fydd ddim mwy na lefel 2 ar y raddfa safonol neu dri mis yn y carchar neu'r ddau;

- bydd unrhyw un sy’n euog o rwystro neu greu oedi i Arolygydd, neu Lawfeddyg Anifeiliaid neu Ymgynghorydd

Milfeddygol wrth arfer eu pwerau mynediad fod yn destun dirwy a fydd ddim mwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

Gall swyddogion awdurdodedig y Cyngor a/neu lawfeddygon/ymarferwyr milfeddygol gael mynediad i archwilio eiddo lletya ar unrhyw adeg resymol. 

 

Os bydd person yn euog o gwbl dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963, Deddf Amddiffyn Anifeiliaid 1911, Deddf Anifeiliaid Anwes 1951, neu unrhyw drosedd dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, adrannau 4, 5, 6(1) a (2), 7 i 9 ac 11, efallai y bydd trwydded y diffynnydd yn cael ei chanslo a gallent gael eu gwahardd rhag cynnal sefydliad lletya anifeiliaid cyn hired ag y mae'r Llys yn ystyried yn rhesymol.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Ceisiadau a Fethodd

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon na wnaethant gael trwydded apelio i'r Llys Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Deiliad Trwydded yn Unioni

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i'r Llys Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell mai rhyngoch chi a’r masnachwr y dylai’r pwynt cyswllt cyntaf gael ei gynnal, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf darparu. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    

     

    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â'r UK European Consumer Centre.

 

 

Rheoliadau

 

 

Coleg Brenhinol y Milfeddygon (CBM)  DEFRA