1. Bydd rhybudd yn datgan na chaiff unrhyw un dan 18 oed chwarae bingo ar yr eiddo wedi'i arddangos mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.
2. Ni chaiff unrhyw gwsmer fynediad uniongyrchol i'r eiddo o unrhyw eiddo arall os bydd un o'r mathau canlynol o ganiatâd yn effeithio ar yr eiddo hwnnw–
(a) trwydded eiddo casino; .
(b) trwydded eiddo canolfan gemau i oedolion .
(c) trwydded eiddo betio (ac eithrio trwydded eiddo trac)
3. (1) Bydd y paragraff hwn yn berthnasol os bydd deilydd y drwydded yn caniatáu i blant a phobl ifanc, neu'r ddau, gael mynediad i'r eiddo, a bod peiriannau gemau Categori B neu C yn cael eu darparu i'w defnyddio ar yr eiddo.
(2) Os bydd peiriannau gemau Categori B neu C yn cael eu darparu i'w defnyddio ar yr eiddo, bydd unrhyw ardal o'r eiddo sydd yn cynnwys y peiriannau hynny–
(a) wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr eiddo gan rwystr ffisegol sydd yn ffordd effeithiol o atal mynediad, ac eithrio mynedfa sydd wedi'i dylunio i'r diben dan sylw; .
(b) wedi'i goruchwylio ar bob achlysur er mwyn sicrhau na fydd plant neu bobl ifanc, na'r naill a'r llall, yn cael mynediad i'r ardal; ac
(c) wedi'i threfnu fel bod modd goruchwylio pob rhan o'r ardal.
(3) Wrth gyfeirio oruchwyliaeth yn is-baragraff (2), yr hyn a olygir yw'r dulliau canlynol–
(a) un neu fwy o bobl y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau nad yw plant neu bobl ifanc, na'r naill a'r llall, yn cael mynediad i'r ardal; neu .
(b) teledu cylch cyfyng wedi'i fonitro gan un neu fwy o bobl y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau nad yw plant neu bobl ifanc, na'r naill a'r llall, yn cael mynediad i'r ardal.
(4) Bydd yn rhaid gosod rhybudd mewn lle amlwg wrth y fynedfa i unrhyw ardal o'r eiddo lle darperir peiriannau gemau Categori B neu C i'w defnyddio sy'n nodi na chaiff unrhyw un dan 18 fynediad i'r ardal.
4. (1) Os codir tâl am fynediad i'r eiddo, bydd yn rhaid arddangos rhybudd o'r tâl hwnnw mewn man amlwg wrth y brif fynedfa i'r eiddo.
(2) Os codir unrhyw dâl arall yn gysylltiedig â gemau, bydd yn rhaid gosod rhybudd ac arno'r wybodaeth yn is-baragraff (3) wrth y brif fan lle mae'n rhaid cyflwyno'r taliad hwnnw.
(3) Bydd yn rhaid i'r rhybudd yn is-baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth ganlynol-
(a) cost (mewn arian) pob cerdyn gêm (neu gyfres o gardiau gêm) sydd yn daladwy gan unigolyn yn gysylltiedig â gêm o bingo; .
(b) mewn perthynas â phob cerdyn gêm (neu gyfres o gardiau gêm) y cyfeirir ato/atynt yn is-baragraff (b), y swm a godir drwy ffi cyfranogi er mwyn cael hawl i gymryd rhan yn y gêm honno; ac
(c) datganiad i'r perwyl y gall yr holl ffi cyfranogi, neu gyfran ohoni, gael ei hildio yn ôl disgresiwn y sawl sy'n codi'r ffi honno
(4) Ceir arddangos y rhybudd ar ffurf electronig.
(5) Yn y paragraff hwn, yr hyn a olygir wrth gyfeirio at "gerdyn gêm" yw dyfais sy'n rhoi cyfle i unigolyn ennill un neu fwy o wobrau yn gysylltiedig â gêm o bingo.
(6) Nid yw cyfeiriad yn y paragraff hwn am godi tâl yn gysylltiedig â gemau yn cynnwys y swm a delir am gyfle i ennill un neu fwy o wobrau wrth chwarae gêm, y mae adran 288 o'r Ddeddf (ystyr "gemau gwobr") yn berthnasol iddo.
5. Bydd yn rhaid darparu rheolau pob math o gêm sydd ar gael i'w chwarae ar yr eiddo (ac eithrio'r gemau a chwaraeir ar beiriannau gemau) i gwsmeriaid ar yr eiddo, a gellir bodloni'r gofyniad hwn drwy-
(a) arddangos arwydd sy'n nodi'r rheolau; .
(b) darparu taflenni neu ddeunydd arall ysgrifenedig ac arnynt y rheolau ar bob bwrdd; neu
(c) dangos canllaw clyweledol i'r rheolau cyn cychwyn unrhyw gêm bingo.
6. Bydd unrhyw beiriant codi arian a ddarperir i'w ddefnyddio ar yr eiddo wedi'i leoli mewn man a fydd yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ei ddefnyddio roi'r gorau i gamblo er mwyn gwneud hynny.