Cost of Living Support Icon

Sefydliad Lletya Anifeiliaid

Os ydych yn dymuno darparu llety i gŵn a chathod pobl eraill, yna rhaid i chi gael trwydded dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 

 

Y Broses Ymgeisio

I wneud cais am drwydded Sefydliad Lletya Anifeiliaid, mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais a ffi berthnasol.

 

Wrth benderfynu ar y cais am drwydded Sefydliad Lletya Anifeiliaid, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn sicrhau bod yr Amodau Safonol a chanllawiau i Gytiau Lletya Cŵn a/neu Lety Cathod yn cael eu bodloni.

 

Bydd Swyddog Trwyddedu o’r cyngor yn ymweld â'r safle i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r uchod. Dan rai amgylchiadau efallai y bydd archwiliad milfeddygol hefyd yn cael ei gynnal.

 

Bydd angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Cynllunio’r cyngor cyn i chi ddechrau adeiladu a bydd angen i chi ystyried trefniadau ar gyfer gwaredu gwastraff hefyd.

 

Mae trwydded yn ddilys am un flwyddyn, ac yn rhedeg rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr. Fodd bynnag, gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw. Hefyd gall ymgeisydd wneud cais am drwydded am y flwyddyn ganlynol nesaf.

 

Wedi cwblhau'r cais yn llwyddiannus, bydd yr ymgeisydd yn derbyn Trwydded Sefydliad Lletya Anifeiliaid a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr.

 

Pan fo person sy'n cadw sefydliad lletya yn marw, bydd y drwydded yn cael ei hystyried fel un a roddwyd i’w gynrychiolwyr personol a bydd yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y farwolaeth a bydd wedyn yn dod i ben.

 

Gall Cyngor Bro Morgannwg ymestyn y cyfnod hwn ar gais os yw'n fodlon fod yr estyniad yn angenrheidiol at y diben o ddirwyn i ben ystâd yr ymadawedig ac nad oes unrhyw amgylchiadau eraill yn gwneud hynny’n annymunol.

 

Caniatâd dealledig

Ie. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu’n union fel pe byddai eich trwydded wedi ei chaniatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Yr amser targed yw 60 diwrnod calendr 

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwyster

Mae anheddau preifat yn cael eu cynnwys, fodd bynnag nid oes angen trwydded arnoch os yw'r llety a ddarperir yn ymwneud â phrif weithgaredd arall neu os yw'r anifeiliaid yn cael eu cadw oherwydd gofynion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

 

Gall unrhyw un wneud cais oni bai eu bod yn awr, neu yn y gorffennol wedi eu:

 

 

  • Gwahardd rhag cadw sefydliad marchogaeth
  • Gwahardd rhag cadw ci
  • Gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes
  • Gwahardd rhag gofalu am gi
  • Gwahardd rhag cadw sefydliad lletya cŵn
  • Wedi eu herlyn dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006

Mae’r Ddeddf Lles Anifeiliaid  yn gosod y cyfrifoldeb am ofal a lles anifail ar bersonau sydd yn cadw neu sydd â chyfrifoldeb am yr anifail, p’un a yw hynny ar sail barhaol neu dros dro.

 

Amodau

Mae dwy set o amodau o dan letya anifeiliaid sef Llety Cathod a Chytiau Lletya Cŵn. Bydd trwydded a roddir ar gyfer llety cathod a/neu gytiau lletya cŵn ag amod/au penodol yn perthyn i’r drwydded.

 

  

Ffioedd

Cais am drwydded: £256.00

 

Bydd yr holl gostau sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar y cais am drwydded neu unrhyw gostau milfeddygol a gaiff Cyngor Bro Morgannwg yn ystod cyfnod y drwydded yn cael eu codi ar ddeiliad y drwydded.

 

Tramgwyddau a Chosbau

Mae'r troseddau a’r cosbau canlynol yn berthnasol i gadw sefydliad lletya anifeiliaid:

 

Gall unrhyw un a geir yn euog o gadw sefydliad lletya anifeiliaid heb drwydded wynebu dirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol neu i dri mis yn y carchar neu'r ddau.

 

Gall unrhyw un a geir yn euog o fethu â chydymffurfio ag amodau ei drwydded wynebu dirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol neu i dri mis yn y carchar neu'r ddau.

 

Gall unrhyw un a geir yn euog o rwystro neu oedi Archwiliwr, neu Filfeddyg neu Ymarferydd Milfeddygol awdurdodedig rhag defnyddio’i bwerau wynebu dirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

 

Gall swyddogion awdurdodedig y Cyngor a / neu filfeddygon / ymarferwyr milfeddygol awdurdodedig fynd i eiddo lletya ar unrhyw adeg resymol i bwrpas ei archwilio.

 

Os ceir diffynnydd yn euog dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963, Deddf Diogelu Anifeiliaid 1911, Deddf Anifeiliaid Anwes 1951, neu o unrhyw drosedd dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, adrannau 4,5,6 (1) a (2), 7 i 9 ac 11 yna mae modd canslo trwydded y diffynnydd a’i wahardd rhag cadw sefydliad lletya anifeiliaid am gyfnod y tybio’r Llys ei fod yn addas. 

 

Cwynion a Chamau Unioni arall

  • Unioni’r cam pan fo’r cais yn methu 

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

    Ffôn: 0300 123 6696

    e-bost: trwyddedu@bromorgannwg.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded apelio i'r Llys Ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y gwêl yn briodol.

  • Deiliad Trwydded – Unioni’r Cam 

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

    Ffôn: 0300 123 6696

    e-bost: trwyddedu@bromorgannwg.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded apelio i'r Llys Ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y gwêl yn briodol.

  • Cwynion Defnyddwyr 

    Os oes gennych gŵyn cynghorir chwi yn y lle cyntaf, bob amser,  i gysylltu gyda’r masnachwr, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf o’i anfon.

     

    Os na fydd hynny wedi gweithio a chwithau yn y DU bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    

     

     

 

Rheoliadau a Chanllawiau

 

 Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)   DEFRA

 

Noder: Os ydych yn dymuno lletya cŵn yn eich cartref, lle y byddant yn cael eu trin fel anifeiliaid anwes y teulu, bydd arnoch angen Trwydded Lletya yn y Cartref, nid Trwydded Lletya Anifeiliaid.