Cost of Living Support Icon

Masnach Deg yn y Fro

Use Fairtrade

Mae Masnach Deg yn ymwneud â phrisiau gwell, amodau gwaith da, cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnachu teg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd sy’n datblygu. 

 

Drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dalu prisiau uwch gwerth y farchnad, mae Masnach Deg yn delio ag anghyfiawnderau masnach arferol, sy’n draddodiadol yn gwahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf, gwannaf. Mae’n eu galluogi i wella eu byd a rheoli eu bywydau’n fwy.
 
Mae’r Nod MASNACH DEG yn label defnyddwyr annibynnol sydd ar ystod o gynhyrchion manwerthu ac arlwyo fel gwarant bod ffermwyr a gweithwyr dan anfantais yn y byd sy’n datblygu yn cael dêl well.

 

Mae Masnach Deg yn gweithio gyda ffermwyr a gweithwyr fel y gallant wella eu safonau byw, buddsoddi yn eu cymunedau a busnesau, a diogelu ein hamgylchedd a rennir.
 
Y Sefydliad Masnach Deg yw’r corff annibynnol yn y DU sy’n dyfarnu’r Nod MASNACH DEG i gynhyrchion sy’n cyrraedd safonau rhyngwladol a bennir gan y corff dyfarnu Fairtrade Labelling Organisations International FLO). Mae rhagor o wybodaeth am waith y Sefydliad ar y wefan.

Pam dewis Masnach Deg? 

Mae dewis Masnach Deg yn ffordd syml ond pwerus o gymryd camau uniongyrchol i gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn - ac nid oes angen iddo gostio mwy.

 

Stocwyr Masnach Deg yn y Fro

Stocwyr masnach deg yn y Barri

Food for Thought Deli

12 Stryd Fawr

  • 01446 735711

Tesco

Port Road

  • 0845 677904

Morrisons 

Penny Way

  • 01446 740193

Waitrose

Palmerston Road

  • 01446 737173

 

Stocwyr Masnach Deg ym Mhenarth

The Fig Tree

The Esplanade

  • 02920 702512

Tesco

Marina Penarth

  • 0845 6779539

Oxfam

8-8a Windsor Road

  • 029 20706358
Foxy’s Deli

7 Royal Building, Victoria Road

  • 029 2025 1666 

 

Stocwyr Masnach Deg yng Nghroes Cwrlwys

Marks and Spencer

Croes Cwrlwys

  • 02920 591600

Tesco

Croes Cwrlwys

  • 0845 6779040

 

 

Darganfod mwy o wybodaeth am lle i prynu pethau Masnach Deg

 

Wefan Masnach Deg