Cost of Living Support Icon

Coronafeirws: Cyngor ar Gyfer Busnes

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth sydd ar gael i fusnesau yng nghyd-destun Coronafeirws - Mai 2022 

  

Newyddion Diweddaraf 

Grant Ardrethi Annomestig 2022 - Ar gau

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru , mae Awdurdodau Lleol yn darparu cronfa grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol ar gyfer busnesau sy'n atebol am eu ardrethi busnes. Bydd angen i bob busnes cymwys gyflwyno ffurflen gais i gael eu hystyried. Mae'r ffurflen gais a'r canllawiau ar eu gwefan – Cymorth Cysylltiedig Ardrethi Annomestig (NDR) i Fusnesau 

 

Grant Dewisol y Gronfa Argyfwng i Fusnesau - Ar gau

Mae cynllun grant cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn y sectorau hamdden, twristiaeth, manwerthu a lletygarwch a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y sectorau nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd, gyda'u llif arian parod uniongyrchol a'u helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol angenrheidiol a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 i reoli lledaeniad Covid-19.

 

 

Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 – Rhagfyr 2021 - Chwefror 2022 

Mae ceisiadau i’r Gronfa Cadernid Economaidd, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer busnesau â throsiant o fwy na £85,000 - Ar gau

  

Vale of Glamorgan Business Support

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y dudalen we hon. Caiff ei diweddaru'n rheolaidd i gynnwys y cyllid a'r cynlluniau  diweddaraf ar gyfer busnesau. 

 

Os hoffech gofrestru eich diddordeb i gael derbyn diweddariadau e-bost ynghylch cymorth busnes, nodwch eich manylion isod.
Os hoffech i ni hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwasanaethau, y digwyddiadau a'r cyfleoedd i fusnesau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol, bydd gofyn i chi gwblhau'r caniatâd RhDDC/GDPR.

 

 

Cymorth coronafeirws (COVID-19)

Mae cymorth coronafeirws (COVID-19) ar gael i gyflogwyr a'r hunangyflogedig, gan gynnwys unig fasnachwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig.  Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael benthyciadau, rhyddhad treth a grantiau arian parod, p'un a yw eich busnes ar agor neu ar gau.  Defnyddiwch y chwiliwr cymorth i fusnesau hwn i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael i chi a'ch busnes. 

 

Ewch i: Chwiliwr Cymorth Coronafeirws i Fusnesau

 

Prifddinas Ranbarth Caerdydd - galwad ar fusnesau yn Ne-ddwyrain Cymru i lunio’r cymorth y mae arnynt ei angen ar gyfer tyfu yn y dyfodol.

 

Mae Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cysylltu â busnesau i bennu’r gwasanaethau y mae arnynt eu heisiau ar gyfer tyfu yn y dyfodol.

 

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i: https://www.surveymonkey.co.uk/r/G5G3F6N

 

 

  

  

Dychwelyd i'r Dudalen Cymorth Busnes