Cost of Living Support Icon

 

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Makerspace yn y Barri

Croesawodd Cyngor Bro Morgannwg Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt i weld y cyfleusterau arloesol sydd ar gael yn Llyfrgell y Barri.

  • Dydd Mercher, 26 Mis Mawrth 2025

    Bro Morgannwg



First Minister Makerspace VisitAmlygodd yr ymweliad y cyfleoedd dysgu digidol sydd ar gael i drigolion y Fro yn llyfrgelloedd y Barri a Phenarth — gan gynnwys y Makerspace newydd sbon.


Mae'r cynllun Makerspace yn cynnig defnydd o amrywiaeth o wahanol offer — gan gynnwys Argraffydd 3D, Cricut Maker 3, Gwasg Gwres, Camera DSLR a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Roeddem wrth ein bodd fel Cyngor i groesawu'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ar eu hymweliad i weld y cyfleusterau digidol yn Llyfrgell y Barri.

 

“Mae'r Makerspace yn darparu mynediad at ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu creadigol yng nghalon cymunedau y Barri a Phenarth.


“Mae'r prosiect hwn yn rhan hanfodol o ymrwymiad parhaus y Cyngor i'r Siarter Cynhwysiant Digidol, drwy ddarparu'r adnoddau hyn i hyrwyddo a gwella sgiliau digidol holl drigolion y Fro.”

Mae pob lleoliad Makerspace yn cynnig nifer o weithdai a digwyddiadau cyffrous i drigolion drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â sesiynau Argraffu a Chodio 3D i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol.


Mae'r prosiect hyd yma wedi elwa o £98,000 o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Roedd yn wych ymweld â Llyfrgell y Barri a gweld sut mae Makerspace yn mynd i'r afael â chynhwysiant digidol drwy sicrhau bod gan bobl yr offer a'r sgiliau i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Gall hyn fod yn rhwystr gwirioneddol i gael swydd neu gael mynediad at wasanaethau hanfodol, a all wirioneddol effeithio ar bobl ar draws pob maes o'u bywydau.


“Mae saith y cant o bobl dros 16 oed yng Nghymru ddim yn defnyddio'r rhyngrwyd ac mae hynny'n codi ymysg pobl sy'n ddi-waith neu'n anabl - ac mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n benderfynol o'i drwsio. Da iawn i bawb sy'n ymwneud â'r cynllun ardderchog hwn!”