Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cwblhau datblygiad tai newydd

Mae safle hen ganolfan gofal iechyd yn y Barri wedi cael ei drawsnewid yn ddatblygiad o 12 fflat wrth i raglen adeiladu tai Cyngor Bro Morgannwg barhau ar gyflymder.

  • Dydd Llun, 24 Mis Mawrth 2025

    Bro Morgannwg



 

Llwys yr EglwysMae Llys yr Eglwys yn gasgliad o gartrefi un gwely sydd wedi eu lleoli oddi ar Winston Road sydd wedi cael eu hadeiladu ar dir a feddianwyd yn flaenorol gan Glinig Colcot.


Mae'r eiddo yn cynnwys cegin/ystafelloedd byw cynllun agored mawr, balconïau, parcio oddi ar y stryd ac ystod o nodweddion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai y Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Tenantiaid: “Mae'r prosiect hwn yn rhan o gynllun tymor hir i gynyddu nifer y tai cyngor wrth i'r Awdurdod edrych i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am y math hwn o eiddo.


“Mae yna gyfres o ddatblygiadau eraill wedi'u cwblhau dros y blynyddoedd diwethaf, gydag eraill ar y ffordd.

 

“Bydd Llys yr Eglwys yn darparu llety cyfforddus, modern i denantiaid yn agos at siopau ac amwynderau lleol ac o fewn cymuned bresennol.


“Fe'i hadeiladwyd i safonau manwl, gydag effeithlonrwydd ynni a'r amgylchedd yn ystyriaeth allweddol yn unol ag ymrwymiad Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.”

Mae'r datblygiad hwn yn dilyn ôl troed cynlluniau tebyg yn Llys Llechwedd Jenner, Lon y Felin Wynt a Clos Holm View yn y Barri, gyda mwy, gan gynnwys llety ar gyfer pobl hŷn ym Mhenarth, ar y gweill.

 

Mae'r fflatiau wedi'u hadeiladu gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy ac maent yn cynnwys paneli solar, cynaeafu dŵr glaw a wal fyw wedi'i gwneud allan o lystyfiant.

Dywedodd Steven Platt, tenant newydd Llys yr Eglwys: “Mae'n braf, yn lân ac yn ddymunol, yn groesawgar iawn i symud i mewn. 

 

“Yn flaenorol, roeddwn i wedi bod mewn byngalo a llety gwesty dros dro, ac mae hyn yn fydoedd ar wahân. Dyma fy nghartref nawr. Gallaf setlo a gallaf ymlacio.


“Mae gen i bob cyfleusterau modern yma, y rhyngrwyd a digon o socedi. Mae'n berffaith.


“Rwy'n dod o'r Barri felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol i mi, mae'n wych ac rwy'n mwynhau byw yma.”