Cyngor yn cytuno ar gyllideb
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn Addysg, Gofal Cymdeithasol, ei drefi, pentrefi a'i rwydwaith priffyrdd ar ôl cytuno ar gyllideb 2025/26 mewn cyfarfod o'r holl Gynghorwyr.
Bydd tua 71 y cant o gyllideb gwerth £331 miliwn yn mynd ar ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol i ateb y galw cynyddol yn yr ardaloedd hyn.
Ond bydd arian hefyd yn cael ei wario ar wella ffyrdd, atgyweirio tyllau ac uwchraddio mannau cyhoeddus i gynnig gwell ansawdd bywyd a mwy o gyfleoedd i drigolion.
Mae mwy na 4.5 miliwn wedi cael eu dyrannu ar gyfer gwelliannau priffyrdd, tra bod y Cyngor yn ddiweddar wedi sicrhau £20 miliwn o arian Levelling Up ar gyfer Prosiect Marina y Barri.
Dim ond 5.9 y cant y bydd y dreth gyngor yn cynyddu — un o'r codiadau lleiaf yng Nghymru - sy'n golygu y bydd trigolion y Fro yn parhau i dalu'n sylweddol llai na chyfartaledd Cymru.
Mae Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, wedi nodi gweledigaeth uchelgeisiol, a fydd yn cael ei gyflawni drwy newid y ffordd y caiff gwasanaethau'n cael eu darparu wrth i'r Cyngor addasu i doriadau cyllid termau real parhaus a diffyg sylweddol yn y gyllideb.
“Mae gan y Cyngor hwn hanes profedig o oresgyn heriau ariannol a does dim amheuaeth y byddwn yn gwneud hynny eto wrth i ni edrych i wireddu ein dyheadau beiddgar ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Mae blaenoriaethu buddsoddiad mewn Gofal Cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn golygu mai'r Fro sydd â'r lleiaf o oedi wrth ryddhau ysbyty yng Nghymru. Mae buddsoddiad parhaus yn ein hysgolion yn golygu bod disgyblion yn dysgu mewn rhai o'r cyfleusterau mwyaf modern a gall y rhai sydd angen cymorth ychwanegol gael gafael ar ddarpariaeth ragorol.
“Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein plant i sicrhau eu bod yn cael y llwyfan gorau un ar gyfer llwyddiant a chynnal cefnogaeth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
“Rydym hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n rhaglen adeiladu tai cyngor i ddiwallu'r angen am gartrefi modern o safon a'n gwaith Prosiect Zero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
“Mae prosiectau cyffrous ar y gweill a all wella cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a hamdden yn y Fro. Mae'r rhain yn cynnwys creu marina, canolfan chwaraeon dŵr a pharc yng Nglannau y Barri, ochr yn ochr â chynigion i rentu gofod swyddfa modern yn Swyddfa Doc gerllaw y Cyngor.
“Rwy'n gyffrous ac yn optimistaidd am y dyfodol, yn hyderus y gall y Fro barhau i ffynnu wrth i ni edrych i wireddu ein Cynllun Corfforaethol a'n Rhaglen Aillunio newydd.
“Ond y ffaith syml yw bod costau'n cynyddu ar gyfradd llawer cyflymach na chyllid felly bydd angen i ni wneud pethau'n wahanol.
“Bydd mwy o weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol lleol, cyflwyno modelau busnes blaengar newydd, efallai y bydd rhai adeiladau'r Cyngor heb eu defnyddio yn cael eu gwerthu ac, yn anochel, efallai y bydd angen cyflwyno rhai taliadau newydd.”
O'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, mae Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn yr ail setliad ariannol lleiaf gan Lywodraeth Cymru.
£224.448 miliwn oedd hynny, cynnydd o 3.8 y cant o'i gymharu â'r llynedd, ac mae'n cyfrif am ddwy ran o dair o'i gyllid gyda'r gweddill yn cynnwys cyfraniadau treth gyngor a chyfran o ardrethi busnes a gasglwyd ledled Cymru.

Bydd mwyafrif helaeth yr arian hwnnw'n mynd ar ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda'r galw sy'n tyfu'n gyflym am Ofal Cymdeithasol i oedolion a phlant, darpariaeth ar gyfer disgyblion ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chostau cludiant ysgol ymhlith y pwysau cost mwyaf sylweddol.
Mae gwariant yn y meysydd hyn wedi cynyddu £8.647 miliwn a £10.243 miliwn yn y drefn honno.
Mae hon yn gyfran fwy nag erioed o'r blaen ac yn rhan o strategaeth ariannol y Cyngor i ddiogelu'r gwasanaethau a ddefnyddir gan ddinasyddion mwyaf bregus y Fro.
Mae costau troellog o'r fath, ynghyd â gostyngiad mewn cyllid, wedi gadael y Cyngor yn wynebu diffyg cyllideb o tua £9 miliwn.
Mae angen gwneud arbedion sylweddol er mwyn dod â gwariant yn unol ag incwm. Yn ogystal â newidiadau ac arloesedd i ddarparu gwasanaethau a chyflwyno rhai taliadau, cyflawnir y rhain drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn ofalus.