Cost of Living Support Icon

 

Gwnewch le ar gyfer adnoddau creadigol newydd y Cyngor

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi agor dau le creadigol newydd yn llyfrgelloedd y sir, gan gynnig ystod eang o wasanaethau crefftio digidol.

  • Dydd Llun, 20 Mis Ionawr 2025

    Bro Morgannwg



Mae Makerspace yn darparu offer arloesol i ymwelwyr - gan gynnwys Argraffydd 3D, Cricut Maker 3, Gwasg Gwres, Camera DSLR a llawer mwy.


Nod y cyfleusterau newydd yn llyfrgelloedd y Barri a Phenarth yw helpu pobl o bob oed i wella eu sgiliau digidol a chreadigol.


Mae pob lleoliad yn cynnig nifer o ddigwyddiadau cyffrous drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gweithdai Argraffu 3D a Chodio i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol..

Makerspace 3D FortDywedodd Simon Alexander, Swyddog Datblygu Makerspace: “Rydym wirioneddol wedi cael ein hysbrydoli gan yr ymateb gan y gymuned creadigol o amgylch ein gwasanaethau llyfrgell ers i ni lansio Makerspace ym Mhenarth a'r Barri.


“O fodelau 3D o longau rhyfel Napoleonaidd, cymeriadau gêmio, echelau newydd ar gyfer ceir RC a darnau celf cysyniadol i ddarluniau ac arwyddion - mae'r brwdfrydedd gan bobl o bob oed a'r cysylltiadau rydyn ni wedi'u hadeiladu gydag artistiaid ac entrepreneuriaid lleol yn ein gwthio ni ymlaen i barhau i ddatblygu'r gwasanaeth, a'i rannu ymhellach o amgylch y Fro.


Wrth rannu adborth am eu profiad yn Makerspace, dywedodd yr artist lleol Inga K:
“Diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi fy syniadau ac am ddangos y technegau laser i mi yn y Makerspace yn Llyfrgell y Barri.

 

“Fel artist lleol heb fynediad i’r dechnoleg hon, roedd y profiad yn agoriad llygaid ac yn ysbrydoledig. Mae e wedi ehangu fy nealltwriaeth o gyfleoedd ar gyfer cydweithio a chreadigrwydd, gan ganiatáu imi fynd â fy syniadau o'r llyfr braslunio i ddylunio cynnyrch.”

Mae pob sesiwn yn Makerspace yn rhad ac am ddim i'w archebu, a gall ymwelwyr naill ai ddod â'u deunyddiau eu hunain, neu prynu deunyddiau'n uniongyrchol yn y llyfrgelloedd.

Makerspace 3D Characters

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: “Rwy'n falch iawn o weld Makerspace yn ffynnu yn llyfrgelloedd y Barri a Phenarth.


“Mae'r prosiect hwn yn dangos nad yw llyfrgelloedd yn ymwneud â llyfrau yn unig – ond yn man cychwyn hefyd ar gyfer creadigrwydd a dysgu.


“Makerspace yn enghraifft berffaith o sut mae'r Cyngor yn cefnogi ein cymuned drwy ddarparu adnoddau arloesol ar gyfer meithrin sgiliau gydol oes a phrofiadau newydd.”

Mae llyfrgelloedd y Barri a Phenarth yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr sy'n fodlon rhannu eu sgiliau dylunio digidol.


Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Makerspace neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â makerspace@valeofglamorgan.gov.uk.