Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn treialu technoleg atgyweirio ffyrdd eco-gyfeillgar

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi treialu system atgyweirio cynaliadwy newydd ar gyfer ffyrdd sydd wedi'u difrodi yn y sir. 

  • Dydd Mercher, 15 Mis Ionawr 2025

    Bro Morgannwg


 

Gan weithio gyda Roadmender Asphalt, profodd y Cyngor dechneg Elastomac yn Clos Greave a Ffordd Walston yn Wenvoe.


Mae'r system newydd yn trosi hen deiars yn ddeunydd trwsio ffyrdd arloesol gyda ôl-troed carbon gwaith atgyweirio yn gostwng 85 y cant.


Mae'r opsiwn amlbwrpas hwn yn cyd-fynd â chynlluniau Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn sgil yr argyfwng newid hinsawdd.

Roadmender 1Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Mae cynnal a thrwsio ein ffyrdd mewn ffordd cynaliadwy yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn cael cyn lleied o effaith ar yr amgylchedd â phosibl.


“Mae'r broses Elastomac yn disodli tanwydd ffosil - a oedd yn gweithredu fel yr asiant gludo o'r blaen - gyda theiars diwedd oes a fyddai fel arall wedi cael eu llosgi.


“Mae'n galonogol gweld llwyddiant y treial yn Wenvoe ac yn dod â'r Cyngor yn nes at leihau gwastraff, gostwng allyriadau a chyflawni statws carbon niwtral erbyn 2030.”

 

Mae'r deunyddiau anymwthiol a ddefnyddir yn Elastomac yn lleihau symudiad deunydd a gwastraff o 90 y cant, sy'n gostwng costau, ac yn osgoi tarfu diangen.


Gellir defnyddio Elastomac i atgyweirio amrywiaeth o arwynebau gan gynnwys ffyrdd, meysydd parcio, pontydd a seilwaith hanfodol ledled Bro Morgannwg.


Bydd y ddau safle yn Wenvoe yn cael eu monitro bob chwarter gyda'r bwriad o gyflwyno mwy o'r cynnyrch hwn yn y dyfodol agos.


Daw'r treial hwn ar ôl i'r Cyngor hefyd brofi system ail-wynebu gwyrddach newydd yn ddiweddar ar Ffordd Sgomer yn Y Barri.


Gan weithio gyda'r cwmni adeiladu Miles Macadam, defnyddiwyd sylwedd o'r enw Biopave, sydd wedi'i gynllunio i leihau effaith amgylcheddol ailwynebu a chynnal a chadw ffyrdd yn sylweddol.


Mae carbon yn cael ei ddal o fewn wyneb y ffordd sy'n golygu na ellir ei ryddhau i'r atmosffer ac mae defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu yn gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol gan nad oes angen chwarelu'r rhain.