Cyngor yn nodi Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2025
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd rhan yn Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2025
Lansiwyd Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, fel menter ledled y DU, gan Race Equality Matters i droi geiriau yn gamau gweithredu ystyrlon.
Thema Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2025 yw #PobGweithredYnCyfrif, gan ei fod yn ceisio uno miloedd o sefydliadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn y gweithle.
Drwy gydol yr wythnos, mae her bum niwrnod – sy’n ymroi bob dydd i fynd i’r afael â gwahanol faterion allweddol a all fod yn niweidiol i gydweithwyr, ffrindiau a theulu, a’r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnam, Aelod Cabinet dros Ymgysylltiad Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol: “Mae cydraddoldeb hiliol yn gyfrifoldeb i bawb, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn gadarn yn ei ymrwymiad i helpu i’w gyflawni.
“Mae cael Cyngor cyfartal, amrywiol a chynhwysol yn golygu y gallwn wella cyfleoedd cyflogaeth a darparu gwasanaethau i gymunedau a grwpiau lleiafrifol ethnig yn well.”
Cyn Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, ymwelodd yr elusen gwrth-hiliaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ag Ysgol yr Holl Seintiau yr Eglwys yng Nghymru yn y Barri yn ddiweddar fel rhan o'u cynllun Arweinwyr Nawr.
Mae Cynllun Arweinwyr Nawr yn dewis llysgenhadon yng Nghymru i arwain y symudiad diwylliannol tuag at wrth-hiliaeth yn eu hysgolion eu hunain.
Dewisodd yr ysgol grŵp o ddisgyblion i ffurfio grŵp gweithredu gwrth-hiliaeth i weithio gyda staff Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i archwilio sut y dylai gwrth-hiliaeth edrych yn eu hysgol yn eu barn nhw, yr arfer dda sydd eisoes yn digwydd yn yr ysgol a beth byddent yn anelu at barhau i wneud yn y dyfodol.
![Show Racism The Red Card Presentation Group Photo](/Images/Press-and-Communications/SRTRC-1400x300.jpg)
Dros gyfnod o ddeg wythnos, ymgymerodd y grŵp ag amrywiaeth o weithgareddau – gan gynnwys creu enw'r grŵp – Coch i Hiliaeth – dylunio logo ac yna cynnal arolwg ysgol gyfan i weld sut roedd gwrth-hiliaeth yn cael ei adlewyrchu yn eu hadnoddau a dealltwriaeth a meddyliau'r ysgol am wrth-hiliaeth.
Ar ddiwedd y prosiect, cwblhaodd y grŵp gyflwyniad i gyd-ddisgyblion, staff yr ysgol, rhieni a llywodraethwyr ar yr hyn y buont yn gweithio arno, a’u cynlluniau tymor hir.
Yn dilyn llwyddiant eu cyflwyniad, gwahoddwyd y myfyrwyr i’w gyflwyno i aelodau Grŵp Cydlyniant Cymunedol y Fro ar 30 Ionawr.
Dywedodd George Ashworth, Dirprwy Bennaeth Ysgol yr Holl Seintiau yr Eglwys yng Nghymru: “Rhoddodd Grŵp Coch i Hiliaeth gyflwyniad gwych i aelodau Grŵp Cydlyniant Cymunedol Bro Morgannwg.
“Roedd cynrychiolwyr o gorff llywodraethu’r ysgol a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth hefyd yn bresennol i glywed y plant yn esbonio sut mae’r ysgol yn codi proffil Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, sut maent yn cael dealltwriaeth ddyfnach o gynefin, amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, a sut mae’r pynciau pwysig hyn yn cael eu haddysgu yn yr ysgol, wedi’u llywio gan lais y disgybl.
“Mae’r plant yn awyddus i gyflwyno eto yn y dyfodol ac yn gyffrous i barhau i weithio tuag at y targedau a amlinellwyd yn eu cynllun gweithredu.
“Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at y digwyddiad gwych hwn!”