Solar Together yn lansio yn y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi cynllun newydd sy’n helpu trigolion i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy drwy gynllun prynu grŵp ar gyfer paneli solar a storio batris.
Mae Solar Together yn helpu perchnogion tai i deimlo'n hyderus eu bod yn talu'r pris cywir am osodiad o ansawdd uchel gan osodwyr cymwys.
Yn dilyn llwyddiant cynlluniau Solar Together yn Lloegr, trigolion De-ddwyrain Cymru yw’r rhai cyntaf yng Nghymru i ymuno â’r cynllun prynu mewn grŵp.
Mae hyn yn cynnig paneli solar gyda storfa batri dewisol a phwyntiau gwefru EV, yn ogystal â storfa batri ôl-ffitio i drigolion sydd eisoes wedi buddsoddi mewn paneli solar ac sy'n edrych i gael mwy o'r ynni adnewyddadwy y maent yn ei gynhyrchu.
Mae'r cynllun yn caniatáu i berchnogion tai gynyddu eu hannibyniaeth o'r grid cenedlaethol. Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i fwrw ymlaen â gosodiad.
Mae cynghorau lleol ym Mlaenau Gwent, Caerdydd, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth ag iChoosr, arbenigwyr ym maes trosglwyddo ynni cynaliadwy, i wneud y newid i ynni glân mor gost-effeithiol a didrafferth â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Leoedd Cynaliadwy: “Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd naturiol a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Mae hynny’n rhan sylfaenol o’n hymdrechion Project Zero i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 ac yn sir garbon net erbyn 2050.
“Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle i drigolion helpu’r blaned, lleihau eu biliau ynni a chael y pris gorau oll ar osod paneli solar trwy ei fodel busnes arloesol.”
Gall deiliaid tai gofrestru ar-lein i ddod yn rhan o'r grŵp am ddim a heb rwymedigaeth.
Mae cyflenwyr PV solar cymeradwy yn y DU yn cymryd rhan mewn arwerthiant o chwith. Gallant gynnig prisiau cystadleuol gan fod cyfaint a chrynodiad daearyddol yn ei gwneud hi'n bosibl iddynt gyflawni mwy o effeithlonrwydd, y maent yn ei drosglwyddo gyda phrisiau is ar gyfer gosodiadau.

Ar ôl yr arwerthiant, bydd cartrefi cofrestredig yn cael e-bost o argymhelliad personol sy'n benodol i'r manylion a gyflwynwyd ganddynt yn eu cofrestriad.
Os byddant yn dewis derbyn eu hargymhelliad, bydd manylion eu gosodiad yn cael eu cadarnhau gydag arolwg technegol ac ar ôl hynny gellir pennu dyddiad ar gyfer gosod eu system ffotofoltäig solar.
Mae desgiau cymorth ffôn ac e-bost wrth law drwy gydol y broses gyfan a fydd, ynghyd â sesiynau gwybodaeth, yn caniatáu i gartrefi wneud penderfyniad gwybodus mewn amgylchedd diogel a di-drafferth.
Dywedodd Marie-Louise Abretti, Rheolwr Busnes Solar Together UK: “Gyda phrisiau ynni’n parhau i amrywio, mae trigolion De-ddwyrain Cymru yn chwilio am gyfleoedd i leihau eu hallyriadau carbon, arbed ar eu biliau ynni, a chynyddu eu hannibyniaeth o’r grid.
"Mae cynllun prynu grŵp Solar Together yn cynnig ffordd syml o wneud penderfyniad gwybodus a chael mynediad at gynnig cystadleuol gan ddarparwr dibynadwy y mae’n ymddiried ynddo.”
Mae iChoosr wedi bod yn cydweithio â chynghorau’r DU ers 2015 ar ei gynllun Solar Together, gyda’r nod o gyflymu’r trawsnewid ynni ledled y wlad. Nod y fenter yw annog preswylwyr i gymryd rhan mewn prynu systemau ffotofoltäig solar a storio batris ar y cyd.
Mae cynlluniau iChoosr wedi’u darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol mewn pum gwlad. Mae mwy na 200 o gynlluniau wedi arwain at 191,000 o berchnogion tai yn gosod systemau storio PV solar neu batri.