Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cwblhau ail gam datblygiad tai yn Y Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau gwaith ar y 10 cyntaf o 31 cartref newydd ychwanegol ar ddatblygiad Clos Holm View yn y Barri.

  • Dydd Iau, 10 Mis Ebrill 2025

    Bro Morgannwg



Mae'r cartrefi newydd yn chwarae rhan bwysig yn rhaglen adeiladu tai barhaus y Cyngor wrth weithio i fynd i'r afael ag angen cynyddol am dai yn y Fro.

clos holm view

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai y Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Tenantiaid: “Fel Cyngor, rydym yn ymdrechu i wneud y Fro yn lle gwych i fyw, ac rydym am i bob preswylydd gael mynediad at gartrefi o ansawdd da.


“Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys cymysgedd o dai, fflatiau a byngalos gan gynnwys rhai cartrefi wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion y rhai sydd ag aelodau o'r teulu anabl.


“Rydym yn credu mewn rhoi dechrau da i bawb mewn bywyd, ac mae hynny'n dechrau gyda sicrhau mynediad at dai diogel, hygyrch a fforddiadwy.


“Mae Clos Holm View yn enghraifft wych o'r gwaith uchelgeisiol mae'r Cyngor yn ei wneud wrth iddo barhau i fuddsoddi mewn tai a seilwaith i drigolion heddiw, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Dyma'r ail gam yn y cynllun ar gyfer adeiladu tai yn Clos Holm View ac mae'n dilyn cynlluniau tebyg eraill yn lleol yn Llys yr Eglwys, Llys Llechwedd Jenner a Lon y Felin Wynt gyda mwy ar y ffordd.