Lansio llyfr newydd ar Archaeoleg Lon Pum Milltir
Dadorchuddiodd archeolegwyr yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg fynwent a safle ymgynnull canoloesol cynnar gyda chysylltiadau posibl a sant Cymreig yn ystod gwaith ar Prosiect y Lon Pum Milltir
Maen nhw ddau ddarganfyddiad o blith nifer a wnaed yn ystod gwaith cloddio a gynhaliwyd fel rhan o'r prosiect i adeiladu ffordd newydd yn cysylltu'r Barri â'r A48.
Daeth y tîm o Red River Archaeology hefyd o hyd i heneb gladdu o'r Oes Efydd hwyr, a gafodd ei hailddefnyddio gan bobl a oedd yn byw yn yr ardal yn ddiweddarach.

Mae'r darganfyddiadau hyn a llawer o rai eraill wedi'u catalogio mewn llyfr a ryddhawyd yn ddiweddar o'r enw A Journey Through 6000 Years of History: Archaeological Investigations Along the A4226 Five Mile Lane Improvement Scheme.
Dywedodd Dr Niamh Daly, a fu'n gweithio ar y prosiect: "Roedd y canfyddiadau archeolegol o safle’r Lôn Pum Milltir, sy'n dyddio o'r Oes Efydd Canol Cynnar i'r Oesoedd Canol, yn arbennig o ddiddorol."
Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, agorodd y ffordd newydd bum mlynedd yn ôl, gan gysylltu Weycock Cross â chylchfan Sycamore Cross.
Cynhaliwyd gwaith cloddio yn 2017 a 2018 a ddatgelodd dirwedd a ddefnyddiwyd mewn llu o ffyrdd ers i bobl ymgartrefu yn yr ardal am y tro cyntaf.
Cafwyd hyd i lu o arteffactau, gan gynnwys: modrwy bylchgron aur fechan, broes bwa croes arian Rhufeinig, darnau o grib pren wedi'i losgi, darnau o grochenwaith a mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: "Drwy Brosiect y Lôn Pum Milltir, uwchraddiwyd darn prysur o briffordd i gynnig llwybr cyflymach a mwy diogel rhwng y Barri a'r A48.
"Yn ogystal â gwella'r profiad teithio i’r nifer fawr o bobl sy'n ei defnyddio, roedd y cynllun hwn hefyd yn darparu ystod o fuddion eraill drwy'r gwaith archeolegol gofalus a ddigwyddodd yn rhan ohono.
"Roedd nifer o ddarganfyddiadau diddorol sydd wedi dysgu mwy i ni am hanes yr ardal a sut mae wedi cael ei defnyddio dros y canrifoedd.
"Mae'r llyfr hwn yn catalogio arwyddocâd y darganfyddiadau hynny, gan ein helpu i ddysgu mwy am ran hynod arwyddocaol o'r Fro."
Yn gyffredinol, datgelwyd tirwedd aml-gyfnod a ddefnyddiwyd at ddibenion seremonïol ac angladdol yn y cyfnodau Neolithig a'r Oes Efydd ac at ddibenion amaethyddol yn Oes yr Haearn.
Bu wedyn yn rhan o ffermdy Rhufeinig cyfoethog, mynwent ganoloesol a ailddefnyddiai fynwent o'r Oes Efydd, a’r dirwedd amaethyddol a welir heddiw.
Claddwyd dros 430 o unigolion o'r bumed i’r drydedd ganrif ar ddeg yn y fynwent, oedd yn tarddu o ddiwedd yr Oes Efydd, mor gynnar â 410 OC. o bosib

Roedd yr unigolion hynny o bob oed, o fabanod i'r henoed, gyda phedwar yn debygol o fod wedi eu geni y tu allan i Brydain.
Roedd y safle'n nodwedd bwysig o'r dirwedd, wedi'i leoli ar groesffordd prif lwybrau crefyddol canoloesol rhwng Llancarfan, Llwyneliddon a Llandaf.
Roedd yn cynnwys y crynodiad mwyaf o odynau sychu grawn sydd wedi eu darganfod yng Nghymru neu yn Lloegr, gyda 26 wedi'u hadnabod, gydag amrywiaeth o grochenwaith Cymreig cyn-Normanaidd.
Gallai bod mor agos i Lancarfan, y credir iddo fod yn safle hollbwysig i Fynachod, hefyd olygu cysylltiad â Sant Cadog, a oedd yn abad yno tua'r bumed neu'r chweched ganrif.
Golygydd A Journey Through 6,000 Years of History: Archaeological Investigations Along the A4226 Five Mile Lane Improvements Scheme gan David Gilbert, Rachel Morgan-James a Siobhán Sinnott.