Datblygiad llety digartref yn barod ar gyfer tenantiaid cyntaf
Mae datblygiad yn Llanilltud Fawr sy'n cynnwys 90 uned o lety dros dro i'r digartref ar fin croesawu ei denantiaid cyntaf.
Wedi'i adeiladu ar safle hen Ysgol Gynradd Eagleswell, mae'r prosiect wedi'i gymeradwyo gan Dimau Cynllunio a Rheoli Adeiladu Cyngor Bro Morgannwg felly mae'n barod i'w ddefnyddio.
Bydd yr unedau'n darparu llety tymor byr o safon uchel i'r rhai mewn angen, megis ffoaduriaid o'r rhyfel yn Wcráin a theuluoedd lleol ar restr aros tai y Cyngor.
Dechreuodd y gwaith ar yr eiddo, fydd yn cael ei adnabod fel Heol Croeso, y llynedd.
Maent yn gymysgedd o gartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely ar un a dau lawr i'w defnyddio yn y tymor byr nes bod tai mwy parhaol yn cael eu sicrhau.
Mae'r cartrefi o ansawdd uchel wedi'u gorffen i safonau llym.
Gellir eu symud i wahanol leoliadau yn y dyfodol yn ôl yr angen, tra bod y datblygiad yn cynnwys pwll dŵr, ardaloedd wedi'u tirlunio, gerddi, maes parcio a heol fewnol.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Bydd y datblygiad hwn yn darparu llety dros dro i'r rhai sydd mewn angen dybryd, fel pobl sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin a'r rhai sy'n byw mewn lleoliadau eraill llai addas ar hyn o bryd.
"Mae'n adlewyrchu un o flaenoriaethau'r Cyngor i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed wrth i ni geisio dod yn Sir Noddfa, ac yn arwydd o ymrwymiad i gefnogi'r rhai sydd wedi dioddef dadleoli gorfodol.
"Mae angen brys am gartrefi newydd gan fod Cymru yn profi argyfwng tai sy’n deillio o brinder llety, rhestrau aros cynyddol a lefelau uwch o ddigartrefedd.
"Bydd defnyddio'r safle hwn yn bwysig wrth leddfu'r pwysau ar stoc tai’r cyngor ac mae'n ateb llawer mwy urddasol na defnyddio gwesty dros dro sylweddol ddrytach a chyfyng."
Mae'r Cyngor wedi gweld lefelau digynsail o angen tai eithafol a chynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau digartref yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yr unedau hyn yn un o'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi teuluoedd digartref.
Mae mwy na 200 o deuluoedd mewn llety dros dro ar hyn o bryd, gyda phedwar achos newydd ar gyfartaledd yn symud i lety dros dro bob wythnos.
Mae hyn wedi golygu bod angen i'r Cyngor leoli teuluoedd mewn gwestai a llety gwely a brecwast am y tro cyntaf ers dros ddegawd.
Mae safle Eagleswell yn cael ei ddyrannu ar gyfer datblygu tai yng Nghynllun Datblygu Lleol presennol y Fro. Fodd bynnag, cafwyd trafodaeth hefyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â'r defnydd o ran o’r safle neu’r safle cyfan i godi cyfleuster iechyd newydd ar gyfer Llanilltud Fawr. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau, a bydd unrhyw ddatblygiad parhaol o'r safle'n destun ymgynghoriad cyhoeddus.