Cyngor yn gofyn am farn trigolion ar flaenoriaethau yn y dyfodol
Mae disgwyl i Gyngor Bro Morgannwg lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei flaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol drafft, sy'n disgrifio rhaglen waith uchelgeisiol i gyflawni gweledigaeth y Cyngor o Gymunedau Cryf sydd â Dyfodol Disglair.
Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Cyngor wedi pennu pum amcan drafft:
• Creu Lleoedd Gwych i Fyw, i Weithio ac i Ymweld
• Cynrychioli a Dathlu'r Amgylchedd
• Rhoi Dechrau Da mewn Bywyd i Bawb.
• Cefnogi ac Amddiffyn y Rhai Sydd Ein Hangen.
• Bod y Cyngor Gorau y Gallwn Fod
Wrth ddatblygu'r amcanion drafft hyn a'r deilliannau a'r camau gweithredu sy'n cyd-fynd â nhw, mae adborth gan breswylwyr wedi bod yn ystyriaeth bwysig.
Mae hyn yn cynnwys canlyniadau’r arolwg Amser Siarad i breswylwyr a chanfyddiadau'r Hunanasesiad Blynyddol, ymarferiad a oedd yn nodi meysydd i'w gwella a ffyrdd y gall y Cyngor newid.
Nawr mae'r Awdurdod am glywed barn bellach gan unrhyw un sydd â diddordeb o ran gosod cyfeiriad y sefydliad rhwng 2025 a 2030 a thu hwnt.
Gellir rhannu'r rhain drwy gwblhau arolwg ar-lein, a fydd ar agor rhwng 14 Hydref a mis Rhagfyr neu yn un o bedwar digwyddiad wyneb yn wyneb sy'n digwydd ar draws y Sir.
Caiff rhain eu cynnal mewn lleoliadau yn y Barri, Penarth, y Bont-faen a Llanilltud Fawr, tra bod cynlluniau hefyd i ymgynghori â grwpiau penodol.
Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n falch o'r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma i greu’r Cynllun Corfforaethol drafft 2025-30. Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno gweledigaeth yr Awdurdod ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth i ni geisio cryfhau a datblygu ein cymunedau ymhellach. "Mae'r preswylwyr wrth wraidd y broses hon. Mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i'n helpu i gyflawni’n well ar gyfer pobl y Fro a bydd eu meddyliau nhw'n ganolog i'w lunio.
"Mae materion a godwyd drwy ymgysylltu ac ymgynghori wedi chwarae rhan bwysig wrth lywio’r gwaith hyd yn hyn a bydd barn y rhai sy'n byw yn ein cymuned yn parhau i fod o'r pwys mwyaf wrth symud ymlaen. Fel Cyngor, rydym yn gwrando."
Dwedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn parhau i wynebu nifer o heriau sylweddol fel Cyngor. Drwy'r cynllun drafft hwn, ein nod yw gweithio gyda phartneriaid a'n cymunedau i fynd i'r afael â'r anawsterau hyn gyda'n gilydd a diwallu anghenion byrdymor a hirdymor Bro Morgannwg. Wrth wneud hynny byddwn yn cyflawni cymunedau cryf sydd â dyfodol disglair.”
Bydd y Cynllun Corfforaethol yn cael ei ddatblygu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, deddfwriaeth a luniwyd i wella bywydau pobl yn y byrdymor, y tymor canol a’r hirdymor.
Mae ei gynhyrchu yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru a bydd fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn.
Yna caiff cynnydd ar ei weithrediad a'i ddeilliannau eu monitro drwy Fframwaith Perfformiad Corfforaethol y Cyngor.