Cost of Living Support Icon

 

Y Barri i elwa o hyd at £20 miliwn mewn cyllid gan y llywodraeth yn dilyn cyhoeddiad y gyllideb

Mae'r Barri eto wedi cael ei ddewis fel un o 75 o drefi ledled y Deyrnas Unedig i dderbyn hyd at £20 miliwn o gyllid o dan raglen Cynllun Hirdymor Llywodraeth y DU ar gyfer Trefi.

 

  • Dydd Iau, 31 Mis Hydref 2024

    Bro Morgannwg



 

CllrBurnettNod y cyllid hwn, sy'n rhan o fenter ddiwygiedig, yw adfywio trefi a grymuso cymunedau lleol i greu newid cynaliadwy.

 

  • Mae Partneriaeth y Barri, a hwyluswyd gan Gyngor Bro Morgannwg ac o dan arweiniad David Stevens, cyd-sylfaenydd a chyn-Brif Swyddog Gweithredol Admiral, wedi bod yn allweddol yn ddiweddar wrth ddatblygu gweledigaeth a chynllun cynhwysfawr 10 mlynedd ar gyfer y cyllid. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r bartneriaeth wedi gweithio i nodi blaenoriaethau lleol, a bydd nawr yn cydweithio â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o gyflawni pum taith genedlaethol y rhaglen.

 

  • Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod o Bartneriaeth y Barri: “Rydym wrth ein bodd o weld y buddsoddiad hwn yn dod i'r Barri. Mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle inni fynd i'r afael â heriau hirsefydlog. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'n trigolion, busnesau a'n partneriaid i adeiladu dyfodol y gall pobl y Barri fod yn falch ohono.”

 

  • Ychwanegodd David Stevens: “Rydym yn gyffrous am y cyfle i ddod â newid go iawn i'r Barri, gan fuddsoddi yn y bobl a'r lleoedd sy'n gwneud ein tref yn arbennig. Drwy gydweithio â thrigolion, busnesau a chynrychiolwyr cymunedol gallwn greu dyfodol mwy disglair sy'n targedu achosion gwreiddiol amddifadedd ac yn datgloi potensial newydd.”

 

Mae'r cyllid hwn wedi'i gynllunio i roi'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen i gymunedau adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer adnewyddu a mynd i'r afael ag anghenion lleol. Bydd y rhaglen yn blaenoriaethu cynhwysoldeb, gan sicrhau y gall pob preswylydd elwa o ymdrechion adfywio'r dref waeth beth fo'u cefndir.


Bydd prosbectws diwygiedig ar gyfer y rhaglen yn cael ei gyhoeddi maes o law, gan nodi llinellau amser wedi'u diweddaru ac amcanion strategol newydd sy'n cyd-fynd yn agos â chenadaethau cenedlaethol y llywodraeth.


Bydd y Cyngor yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth gydlynu ymdrechion i greu effaith gadarnhaol barhaol i drigolion y Barri.

Ar y pwynt hwnnw, dywedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr y Cyngor: “Croesewir cadarnhad o'r cyllid hwn. Mae'n dod ar adeg pan mae'r Cyngor ei hun yn ymgynghori ar gynlluniau uchelgeisiol drwy'r Cynllun Corfforaethol newydd, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer Bro Morgannwg ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn rhoi cyfle ardderchog i ni fuddsoddi mewn cymunedau o fewn y Barri er budd yr holl drigolion.”