Cost of Living Support Icon

 

Pwyllgor Safonau Penodi Aelodau Annibynnol

Mae gan y Cyngor leoedd gwag ar hyn o bryd ar gyfer Aelodau Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau. Mae hwn yn Bwyllgor statudol sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gynnal safonau moesegol uchel ar lefel Cyngor Sir a Chymuned.

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Mai 2024

    Bro Morgannwg



 

Ynglŷn â’r swydd

Rôl y Pwyllgor yn fyr yw cynghori, cynorthwyo ac arwain Aelodau wrth fabwysiadu, monitro, gweithredu, gorfodi ac adolygu gwahanol Godau Ymddygiad lleol, yn enwedig y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau a chanllawiau moesegol eraill. Mae manylion llawn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau i'w gweld yn Adran 8 o Gyfansoddiad y Cyngor sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Caiff Aelodau Annibynnol eu penodi am gyfnod o rhwng pedair a chwe blynedd a gellir eu penodi am gyfnod olynol pellach o hyd at bedair blynedd. Mae'r Pwyllgor Safonau yn cyfarfod tua chwe gwaith y flwyddyn, er efallai y bydd angen i Aelodau Annibynnol sicrhau eu bod ar gael ar gyfer cyfarfodydd heb eu trefnu ar fyr rybudd o fewn ychydig ddyddiau os bydd angen.

 

Mae'r Pwyllgor Safonau yn cynnwys pum Aelod Annibynnol, tri Chynghorydd Sir ac un cynrychiolydd Cyngor Cymuned. Mae rolau Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn cael eu hethol o blith Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau.

 

Bydd ymgeiswyr cymwys yn gallu dangos y rhinweddau a'r nodweddion canlynol:

  • Gwrandäwr da ond yn chwilfrydig

  • Gallu ystyried tystiolaeth sy’n gwrthdaro a dod i gasgliad effeithiol

  • Gallu gweithio fel rhan o dîm

  • Parchu eraill gan ddeall gwerthoedd moesegol cryf a’u parchu

  • Gonestrwydd a chymeriad da

 

Nid oes angen gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol er y byddai'n fantais pe bai gan ymgeiswyr posibl ddiddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd cyhoeddus a gwasanaethau.

 

Ni all y personau canlynol fod yn Aelod Annibynnol yn unol â’r gyfraith:

  • Cynghorydd neu Swyddog sy'n gwasanaethu (neu briod neu bartneriaid sifil Cynghorydd neu Swyddog) Cyngor Bro Morgannwg, Awdurdod Tân ac Achub ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, neu Gyngor Cymuned / Tref

  • Cyn-gynghorwyr neu Swyddogion Cyngor Bro Morgannwg

  • Cyn-gynghorwyr neu Swyddogion unrhyw Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol arall, Awdurdod Tân ac Achub neu Awdurdod Parc Cenedlaethol tan o leiaf flwyddyn ar ôl peidio â bod yn Gynghorydd / Swyddog yr Awdurdod hwnnw

 

Gall y Panel Penodi ystyried bod y gallu i siarad Cymraeg yn fantais a gall y Panel ystyried yr angen i sicrhau cydbwysedd o sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd ar y Pwyllgor, yn ogystal â'r angen i gynrychioli'r gymuned gyfan a sicrhau cynrychiolaeth ar draws ledaeniad daearyddol.

 

Ni ddylai Aelod Annibynnol fod wedi ymwneud yn sylweddol â'r Cyngor i’r graddau a allai gyfaddawdu ei ddidueddrwydd, ac ni ddylai fod â pherthynas agos ag unrhyw Aelod neu Swyddog o'r Cyngor.

 

Mae’r Cyngor yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn ddarparwr gwasanaethau, ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob sector o’r boblogaeth.

 

Mae gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau hawl i hawlio'r ffioedd canlynol fel Aelodau Cyfetholedig fel yr argymhellwyd gan y Panel Annibynnol ar Daliadau Cydnabyddiaeth o 1 Ebrill 2024:

  • Cadeirydd - cyfradd yr awr £33.50, ffi ddyddiol £268 (4 awr a throsodd), (£134 hyd at 4 awr)

  • Aelod cyffredin – cyfradd yr awr £26.25, ffi ddyddiol £210 (4 awr a throsodd), (£105 hyd at 4 awr)

 

Ar hyn o bryd mae'r taliadau hyn wedi'u capio ar uchafswm o 15 diwrnod llawn y flwyddyn i unigolyn. Mae’r taliadau ar gyfer amser cyfarfod ac yn cynnwys yr amser sy’n cael ei dreulio ar baratoi a theithio os oes angen. At ddibenion unrhyw hawliad, diffinnir cyfarfod hanner diwrnod fel hyd at bedair awr, diffinnir cyfarfod diwrnod llawn fel dros bedair awr.

 

Yn ogystal, mae darpariaeth ar gyfer ad-dalu costau angenrheidiol ar gyfer gofalu am blant ac oedolion dibynnol (a ddarperir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol). Bydd ad-daliad yn cael ei wneud dim ond pan fo'r gofal yn angenrheidiol i alluogi person y byddai ei allu i gymryd rhan yn cael ei gyfyngu gan ei gyfrifoldebau fel gofalwr, ond telir yr ad-daliad dim ond ar gynhyrchu derbynebau gan y gofalwr.

 

 

Sut i wneud cais

Llenwch ffurflen gais a’i dychwelyd ar e-bost at: dmarles@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Y dyddiad cau i wneud cais yw 23 Mai 2024.

 

Y bwriad yw cynnal cyfweliadau yn ystod wythnos olaf mis Mai ac wythnos gyntaf mis Mehefin 2024.

 

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei benodi o 18 Gorffennaf 2024.