Cost of Living Support Icon

 

Ethol Maer newydd Bro Morgannwg

Cafodd y Cynghorydd Elliot Penn ei bleidleisio'n Faer newydd Bro Morgannwg yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 08 Mai.

  • Dydd Iau, 09 Mis Mai 2024

    Bro Morgannwg



Mayor, Councillor Elliot PennYn yr un cyfarfod, croesawodd y Fro y Cynghorydd Naomi Marshalsea hefyd fel Dirprwy Faer.

 

Yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, bydd y Maer yn llywyddu prif gyfarfodydd y Cyngor, ac yn ymgymryd â rolau seremonïol amrywiol ar ran y Sir.

 

Fel Maer a Dirprwy, bydd y Cynghorydd Penn a'r Cynghorydd Marshallsea hefyd yn parhau i godi arian ar gyfer sefydliad y Maer.

 

Mae'r Sefydliad yn cynnig cefnogaeth ariannol i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a sefydliadau nid-er-elw tuag at gost mentrau sy'n helpu i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o 'Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair'.

Dwedodd y Cynghorydd Elliot Penn, Maer Bro Morgannwg: 'Wedi tyfu i fyny a byw ym Mhenarth ar hyd fy oes mae'n fraint cael parhau i gynrychioli ward St Augustine’s ac yn anrhydedd mawr cael fy ethol yn Faer.

 

"Rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli Bro Morgannwg mewn llawer o ddigwyddiadau amrywiol drwy gydol y flwyddyn.''

 

Deputy Mayor, Councillor Naomi MarshalseaDywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Naomi Marshallsea: "Rwyf wedi byw yn y Barri ers 6 blynedd gyda fy nheulu, ac rwy'n falch o'i alw'n gartref.

 

 

"Mae wedi bod yn anrhydedd cynrychioli ward Illtyd dros y 2 flynedd diwethaf.

 

"Fel dirprwy faer, rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar draws Bro Morgannwg."