Cost of Living Support Icon

 

Dyfarnu Gwobr Aur i Ddosbarth Dawns Cynhwysol mewn Seremoni Nodedig

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gallu cadarnhau bod Motion Control Dance, sydd wedi'i leoli yn y Barri, wedi ennill y wobr Aur fawr ei bri yn ddiweddar gan Achrediad Clwb Insport Chwaraeon Anabledd Cymru.

  • Dydd Mercher, 29 Mis Mai 2024

    Bro Morgannwg



Motion Dance 1

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at eu hymdrechion ymroddedig i ddarparu rhaglen gwbl gynhwysol ar gyfer unigolion anabl o bob oed, boed hynny fel cyfranogwyr, gwirfoddolwyr neu aelodau bwrdd.

 

Mae bod yn un o ddim ond dau glwb ym Mro Morgannwg i ennill y wobr haen uchaf hon yn tanlinellu ymrwymiad cadarn Motion Control i gynwysoldeb ar gyfer pob aelod o'r gymuned.

 

Mae ethos Motion Control yn troi o gwmpas meithrin hyder a hunan-barch i oresgyn rhwystrau, gan ganiatáu i aelodau gaffael sgiliau newydd ac ehangu eu gorwelion. Gan gynnig ystod amrywiol o ddosbarthiadau cynhwysol, maent yn annog plant a phobl ifanc anabl i gymryd rhan yn eu mentrau dawns ehangach.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Motion Control wedi bod yn allweddol wrth gefnogi mentrau Tîm Byw'n Iach Cyngor y Fro, gan ymdrechu i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc trwy ddawns mewn digwyddiadau a lleoliadau amrywiol, gan gynnwys ysgolion, sesiynau anabledd a chlybiau ar ôl ysgol.

 

Mae eu sesiynau'n adnabyddus am eu natur gynhwysol a phleserus, gan sicrhau ymgysylltiad gan gyfranogwyr o bob gallu.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles, y Cynghorydd Gwyn John, gyflawniad Motion Control, gan ddweud: "Mae ymrwymiad Motion Control Dance i gynwysoldeb yn rhoi esiampl glodwiw i'n cymuned. Mae eu hymdrechion diflino i roi cyfleoedd cynhwysol i unigolion o bob gallu, ni waeth be fo’r heriau y gallent eu hwynebu, yn glodfawr yn ogystal â bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth.

 

"Mae eu hymdrechion yn atseinio'n ddwfn ag ethos y Cyngor, gan hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb, a dathlu unigoliaeth.

 

"Rydym yn falch iawn o'u cyflawniadau ac yn gobeithio y bydd hyn yn annog eraill i gymryd rhan mewn dosbarthiadau a digwyddiadau yn y dyfodol."

 

Yn fwyaf diweddar, cydweithiodd Motion Control gyda Vale People First yng Nghanolfan Gymunedol The Bridge Between, gan hwyluso prosiect dawns 6 wythnos i oedolion anabl. Yn ogystal â rhoi ymdeimlad newydd o hyder a chymhelliant i'r cyfranogwyr, mae’r ymdrech hon yn eu hannog i archwilio rhagor o gyfleoedd, megis y dosbarthiadau Local Motion Dance a gynigir yn y Ganolfan Motion Control Dance yn y YMCA.

 

Ar ben hynny, mae Motion Control wedi bod yn ymwneud â chynnal sesiynau mewn canolfan adnoddau mewn ysgol gynradd leol, gan roi cymorth i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Yn ogystal, maent wedi estyn eu hallgymorth i breswylwyr hŷn trwy'r Cynllun Pàs Aur.

 

Mae'r Cynllun Pàs Aur yn rhoi cyfle i unigolion 60 oed a hŷn sy'n byw ym Mro Morgannwg gymryd rhan mewn wyth sesiwn am ddim o weithgarwch corfforol a chwaraeon cymunedol. Trwy'r fenter hon, mae cyfranogwyr hŷn wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau Motion Control. Mae'r unigolion hyn wedi canmol addasrwydd a chynwysoldeb y sesiynau, gan herio camsyniadau cyffredin ynghylch ymarfer corff mewn henaint. Mae'r amgylchedd croesawgar sy'n cael ei feithrin gan y grwpiau wedi hwyluso gwella lles corfforol a meddyliol i oedolion ag anableddau, cyflyrau iechyd neu namau amrywiol, wrth fynd i'r afael â'r risg o ynysu cymdeithasol ar yr un pryd.

 

Mynegodd cyfranogwr 86 oed ei boddhad gyda'r profiad, gan ddweud:"Fe wnes i fwynhau'r dosbarth yn fawr. Mae Lara, yr athro, yn amyneddgar ac yn ddeallus. Dw i wedi bod yn mynychu bob wythnos ers ymaelodi. Mae fy nghydbwysedd wedi gwella ac rwy'n teimlo'n fwy hyblyg. Yn ogystal, dw i wedi gwneud ffrindiau, ac rydyn ni'n mwynhau coffi a sgwrs ar ôl y dosbarth."

 

Cyflwynwyd y wobr Aur i'r Cyfarwyddwr Sefydlu Motion Control, Emma Mallam, Cydlynydd Dawns Anabledd Sam Griffiths, a dawnswyr o sesiynau cynhwysol.

 

Yn bresennol yn y seremoni gyflwyno roedd y Cynghorydd Gwyn John (Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles), David Knevett (Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Cymdogaeth, Byw'n Iach), Angela Stevens (Swyddog Byw'n Iach) a Leif Thobroe (Uwch Swyddog Partneriaeth Rhanbarthol Chwaraeon Anabledd Cymru - Canol De Cymru).