Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn anrhydeddu'r RNLI

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dyfarnu statws Rhyddfreinwyr Anrhydeddus i wirfoddolwyr lleol gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Mai 2024

    Bro Morgannwg



RNLI 1

Ymwelodd y Cynghorydd Lis Burnett â gorsaf bad achub yr RNLI ym Mhenarth i gyflwyno placiau i'r criwiau i nodi'r cyflawniad hwn.

 

Mae'r teitlau seremonïol yn cydnabod, ym mlwyddyn dathlu pen-blwydd yr elusen yn 200 oed, y gwasanaeth achubol mae gwirfoddolwyr RNLI wedi'i roi i breswylwyr ac ymwelwyr â'r Fro.

Dwedodd y Cynghorydd Burnett:  "Mae'r RNLI yn elusen sy'n dibynnu ar ymrwymiad a haelioni gwirfoddolwyr i helpu i gadw pobl yn ddiogel ar hyd arfordir ein gwlad.

 

"Gan fod y Fro yn sir arfordirol, rydym yn elwa o'r ymroddiad hwnnw yn fwy na'r rhan fwyaf, gyda gwirfoddolwyr yr RNLI yn helpu i gadw pobl yn ddiogel yn ein cyrchfannau, ein traethau a'r dyfroedd morol.

 

"Mae'r unigolion dewr hyn yn gwneud y gwaith hwn nid er budd personol, ond er budd a diogelwch eraill.

 

"Roedd y Cyngor yn dymuno cydnabod y cyfraniad hwn gyda rhywbeth sy'n adlewyrchu ein gwerthfawrogiad a'n edmygedd tuag at y bobl sy'n rhoi o'u hamser fel hyn.

 

"Mae'r dyfarniad hwn yn cael ei roi i unigolion sydd wedi gwneud gwasanaeth eithriadol i'n cymunedau ac mae’n haeddiannol iawn.

 

"Mae'n dangos pŵer gwirfoddoli, sydd yn yr achos hwn yn llythrennol yn achub bywydau."

 

Bu RNLI Penarth hefyd yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i fynd i'r afael ag unigrwydd a rhoi cyfle i bobl siarad am iechyd meddwl drwy osod y 'Fainc Gyfeillgarwch' wedi’i phaentio yn lliwiau'r RNLI ar Esplanâd Penarth.

 

Mae'n un o nifer o grwpiau gwirfoddol y mae'r Cyngor yn gweithio gyda nhw ar ystod o faterion, gan gynnwys partneriaeth hirsefydlog a sefydlwyd gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg. 

 

Dywedodd Matt Childs, Rheolwr Achub Bywyd Ardal Leol yr RNLI: "Mae hon yn anrhydedd enfawr gan Gyngor Bro Morgannwg yn cydnabod ein criwiau gwirfoddol a'u heffaith fel cydweithfa yng Ngorsafoedd Badau Achub Doc y Barri a Phenarth.

 

"Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn gweithio'n ddiflino i gadw eu cymunedau'n ddiogel ac achub bywydau ar y môr.  Mae'n flwyddyn gyffrous i'n helusen wrth i ni ddathlu 200 mlynedd o achub bywydau, lle rydym yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o achubwyr bywyd. 

 

"A bydd y gydnabyddiaeth arbennig hon gan y Cyngor yn ein helpu i wneud hynny drwy daflu goleuni ar waith anhygoel ein gwirfoddolwyr a'n gwasanaeth bad achub."

 

Yr haf hwn mae RNLI Doc y Barri yn cynnal Gŵyl y Môr yn Ynys y Barri am y tro cyntaf erioed, i ddathlu pen-blwydd yr RNLI yn 200 oed.  Mwynhewch benwythnos o gerddoriaeth forwrol a hwyl am ddim i'r teulu yng Ngerddi a Phromenâd yr ynys ar 1 a 2 Mehefin 2024.