Grŵp ieuenctid y cyngor yn ennill gwobr
Mae grŵp cyfranogiad Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn cydnabyddiaeth bellach ar ôl ennill gwobr Dathlu Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru mewn seremoni yn Llandudno.
Mae Ei Llais Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor ac mae'n cynnwys merched rhwng 13 ac 17 oed o bob rhan o'r Sir.
Roedd ei aelodau eisiau codi ymwybyddiaeth o fynychder sylwadau digroeso ac aflonyddu rhywiol wedi ei gyfeirio at ferched.
Cynhyrchwyd adroddiad ar sut i wella diogelwch ar y stryd, sydd wedi'i gyflwyno i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys aelodau o Gabinet y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymdrechion hynny bellach wedi ennill y wobr hon gan Lywodraeth Cymru, sy'n anrhydeddu cyfraniadau gwaith ieuenctid eithriadol ledled y wlad, yn y categori Dangos Rhagoriaeth mewn Cynllunio a Chyflawni Partneriaethau ar Lefel Leol.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ymgysylltu Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Mae'r gwaith y mae Ei Llais Cymru wedi’i wneud yn drawiadol. Nid yn unig y mae ei aelodau wedi ymchwilio ac adrodd ar fater difrifol sy'n effeithio ar bobl ifanc, maent hefyd wedi tynnu sylw gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol.
"Mae'r wobr hon yn cael ei rhoi i fenter sydd wedi cael effaith wirioneddol, gan wella diogelwch ar y stryd i ferched yn y Fro a thu hwnt.
"Rydym eisiau i bawb yn ein cymunedau deimlo'n ddiogel, ac er bod tystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf yn teimlo’n ddiogel, mae lle i wella bob amser.
"Mae aflonyddu rhywiol ymysg merched yn gwbl annerbyniol, ond yn anffodus, mae'n broblem go iawn y mae angen mynd i'r afael â hi.
"Mae'r menywod ifanc hyn wedi bod yn ddigon dewr i wynebu'r mater hwn yn uniongyrchol, gan feddwl am nifer o awgrymiadau ymarferol i sicrhau newid."
Dechreuodd Ei Llais Cymru yr ymgyrch #wedon'tfeelsafesafe i annog pobl ifanc i adrodd am achosion o aflonyddu, tra bod unigolion amlwg, fel Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, wedi gwneud addewid i roi cyhoeddusrwydd i'r broblem.
Mae'r grŵp hefyd wedi meddwl am syniadau i wella diogelwch ar y stryd, gan gynnwys creu Mannau Diogel, menter sy'n cynnwys gofyn i fusnesau ledled y Fro arddangos sticer yn eu ffenestri sy'n nodi ei fod yn lle diogel i fynd i mewn iddo.
Pan fydd rhywun yn teimlo'n agored i niwed, gall ddefnyddio'r man hwn fel lloches.
Denodd y gwaith hwn sylw cenedlaethol ac arweiniodd at y grŵp yn ymddangos mewn cyfres tair rhan ar S4C, a ddarlledwyd yn gynharach eleni.
Daeth cwmni cynhyrchu sy'n darparu cynnwys i'r darlledwr Cymraeg yn ymwybodol o Ei Llais Cymru ar ôl i un o'i staff fynychu cyflwyniad yng Nghaerdydd.
Yna cafodd profiadau'r grŵp eu cynnwys mewn set o raglenni, bob un yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy'n cael effaith ar bobl ifanc.
Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn y prosiect gysylltu â Gwasanaeth Ieuenctid y Fro drwy e-bostio valeyouthservice@valeofglamorgan.gov.uk