Cost of Living Support Icon

 

Pleidleiswyr yn cael eu hatgoffa o newidiadau i ddaearyddiaeth etholiadol cyn 4 Gorffennaf

Mae trigolion ar draws de Cymru yn cael eu hatgoffa o newidiadau diweddar yn yr etholaethau seneddol a allai effeithio ar yr ardal y maent yn bwrw eu pleidlais ynddi ar 4 Gorffennaf.

 

  • Dydd Gwener, 28 Mis Mehefin 2024

    Bro Morgannwg



Inflatable X at Barry IslandMae nifer o newidiadau wedi digwydd i ffiniau etholaethau ar draws y DU cyn yr Etholiad Cyffredinol fis nesaf, gyda nifer yr etholaethau yng Nghymru yn gostwng o 40 i 32.

 

Daw'r newidiadau yn dilyn adolygiad y llynedd o ffiniau seneddol i sicrhau bod etholaethau i gyd tua’r un maint. Mae ardaloedd etholaethol wedi cael eu newid i adlewyrchu poblogaethau sy’n cynyddu a gostwng a newidiadau yn ffiniau'r wardiau etholiadol sy'n eu cynnwys.  

 

Mae'r Swyddogion Canlyniadau yn ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn cynghori pleidleiswyr i ymgyfarwyddo â'r newidiadau a oedd yn cynnwys enwau newydd ar gyfer rhai etholaethau, ffiniau mwy ar gyfer rhai ardaloedd a llai ar gyfer ardaloedd eraill.

 

Nid yw'r newidiadau yn berthnasol i ffiniau seddi yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddogion Canlyniadau: "Mae'n bwysig iawn bod trigolion mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr adolygiad ffiniau yn gwybod ym mha etholaeth neu 'sedd' y byddan nhw'n pleidleisio. Efallai y bydd pleidleiswyr sy'n byw mewn ardal sydd wedi symud i etholaeth wahanol yn sylwi bod eu cerdyn pleidleisio neu bleidlais bost yn edrych ychydig yn wahanol i'r rheini maen nhw wedi'u cael o'r blaen, oherwydd mae’r cerdyn wedi’i gyflwyno gan gyngor gwahanol sy'n cynnal yr etholiad yn yr etholaeth newydd hon.

 

"Nid ydym am i hyn achosi unrhyw ddryswch i'n trigolion. Bydd pobl sy'n byw yn yr ardaloedd lle mae'r newidiadau hyn wedi digwydd yn parhau i fod yn drigolion yn ardal eu hawdurdod lleol presennol a bydd eu cyngor lleol yn parhau i reoli'r broses o gofrestru eu pleidleisiau ar gyfer pob etholiad yn y dyfodol."

Ym Mro Morgannwg:

 

Mae Dinas Powys yn symud o Fro Morgannwg i Dde Caerdydd a Phenarth

 

Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/Electoral-Services/Polling-Stations.aspx

 

Mae Penarth, Llandochau, Michaelson Le Pit, Sully a Lavernock eisoes yn rhan o ffin etholaeth De Caerdydd a Phenarth.

 

Nid yw'r newidiadau yn effeithio ar wardiau awdurdodau lleol na sonnir amdanynt yn y dadansoddiad uchod. I weld mapiau o'r hen ardaloedd etholaethol blaenorol a newydd, ewch i: https://commonslibrary.parliament.uk/boundary-review-2023-which-seats-will-change/