Cost of Living Support Icon

 

Buddugoliaeth Cogydd Ysgol o’r Fro yn ystod Rownd Derfynol Ranbarthol Cogydd y Flwyddyn Ysgolion Cymru

Enillodd Dee Karakus o'r Cwmni Arlwyo Big Fresh rownd derfynol ranbarthol SCOTY Cymru ar ôl cystadleuaeth wefreiddiol rhwng cogyddion.

 

  • Dydd Gwener, 14 Mis Mehefin 2024

    Bro Morgannwg



Dee Karakus being awarded with her School Cook of the Year AwardRoedd Dee, sy'n gweithio yn Ysgol Gynradd Cogan, yn cystadlu yn erbyn dau gogydd arall yn y rownd derfynol fawreddog - un yn cynrychioli Chartwells Catering yng Nghasnewydd a Chogydd arall o’r cwmni Big Fresh, sef Tracey Smart o Ysgol Gynradd Palmerston.

 

Nod y gystadleuaeth, a gynhelir gan Gymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol (LACA) yw dangos pwysigrwydd coginio o ansawdd uchel mewn prydau ysgol, ac mae’r beirniaid yn chwilio am ddulliau arloesol a chreadigol.

 

Cafodd cystadleuwyr y dasg o ddefnyddio un cynnyrch Bisto yn eu prif gwrs ac un cynhwysyn Premier Foods yn eu pwdin.

 

Roedd Dee yn syfrdanu beirniaid gyda'i lasagne lentil iachus wedi'i thrwytho â blasau Mediteranaidd a bara garlleg, wedi'u gweini â betys a llysiau gwyrdd. I bwdin, cyflwynodd beli moron wedi'u hysbrydoli gan Turkish Delight gyda chwstard, a daeth y ddau bryd i’r brig.

 

Ar ôl ei buddugoliaeth yng Nghymru, bydd Dee yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn 10 o enillwyr rhanbarthol eraill y DU yn y rownd derfynol genedlaethol ddechrau mis Gorffennaf.

Meddai Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cwmni Arlwyo Big Fresh: "Rydym mor falch o Dee a Tracey am gynrychioli Big Fresh a'r Fro yn rownd derfynol SCOTY Cymru.

 

"Llongyfarchiadau i Dee am greu bwyd ysgol rhagorol a greodd argraff arbennig ar y beirniaid gan ennill y lle iddi yn y rowndiau terfynol rhanbarthol lle bydd ganddi gyfle gwych arall i arddangos ei sgiliau coginio.

 

"Rwy'n dymuno'r gorau iddi yn y rownd derfynol."

 

Gan weithredu fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, mae Big Fresh yn gweithredu ar draws ysgolion Bro Morgannwg a'r sector lletygarwch ehangach, y mae ei elw yn cael ei ailfuddsoddi yn ysgolion y Fro.

 

Gallwch ddysgu mwy am Big Fresh a'r gwaith y mae’n ei wneud ar ei  wefan.