Bydd gan Ysgol Llyn Derw amrywiaeth o nodweddion gwyrdd
Bydd ysgol gynradd newydd Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer 205 o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn helpu'r amgylchedd.
Wedi'i henwi gan y disgyblion, mae Ysgol Llyn Derw yn cael ei hadeiladu ar dir ger Parc Gwledig Cosmeston i ateb y galw eithriadol am y math hwn o ddarpariaeth.
Bydd yn ail safle i Ysgol Y Deri, yr ysgol glodfawr ym Mhenarth a oedd yn destun rhaglen ddogfen BBC o'r enw A Special School.
Mae'r cyfleuster gwerth £20 miliwn yn cael ei adeiladu dros ddau lawr, gyda'r dirwedd gyfagos yn gweithredu fel estyniad o adeiladau'r ysgol, gan gynnig mannau addysgu ac astudio yn ogystal ag ardaloedd ar gyfer chwaraeon, chwarae, cymdeithasu, ymlacio a myfyrio.
Bydd dyluniad yr ysgol yn elwa ar olau naturiol ac awyru lle bynnag y bo'n bosibl, toeau gwyrdd i gynyddu bioamrywiaeth a llu o nodweddion ecogyfeillgar eraill.
Mae blychau adar ac ystlumod wedi eu gosod ynghyd â mannau i bryfed i hybu bywyd gwyllt lleol, ac mae coed a blodau gwyllt wedi eu plannu i wella mannau gwyrdd yr ysgol.
Bydd paneli solar a generadur hybrid yn cael eu defnyddio i bweru'r safle, sydd wedi'i adeiladu gyda deunyddiau ynni effeithlon i helpu i'w wneud yn garbon niwtral.
Mae datblygwyr ISG hefyd yn defnyddio olew llysiau a thrydan wedi’i hydrodrin i bweru peiriannau ar y safle, gan arwain at ostyngiad o 90 y cant i allyriadau carbon.
Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Bydd Ysgol y Deri 2 yn darparu amgylchedd pwrpasol mawr ei angen ar gyfer disgyblion y mae angen sylw arbenigol arnynt ac yn adeiladu ar y gwaith gwych a wneir ym mhrif safle'r ysgol. Roedd enghreifftiau o'r union wahaniaeth y gall hyn ei wneud i fywydau plant ar gael i bawb eu gweld yn rhaglen ddogfen ddiweddar y BBC: A Special School.
"Ond yn ogystal â helpu disgyblion, rydym hefyd yn awyddus i'n hysgolion fod o fudd i'r amgylchedd. Mae hyn yn unol â’r Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd gan y Cyngor a’n hymrwymiad Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"Mae gan Ysgol y Deri 2 lu o nodweddion trawiadol sy'n ei gwneud yn lân ac yn wyrdd ochr yn ochr â darpariaeth helaeth ar gyfer bywyd anifeiliaid a phlanhigion.”
Dywedodd Kevin McElroy, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ISG: "Mae ymroddiad Cyngor Bro Morgannwg i grefftio amgylchedd dysgu pwrpasol ar gyfer disgyblion nid yn unig yn gwella canlyniadau addysgol ond hefyd yn gadael effaith barhaol ar y gymuned a'r amgylchedd lleol. Mae Ysgol Llyn Derw yn fodel o gyfleusterau addysgol carbon niwtral, gan ddangos ein hymrwymiad i adeiladu mannau sy'n arloesol ac yn amgylcheddol gyfrifol. Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn ddi-dor â nod Prosiect Sero y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan osod safon newydd ar gyfer datblygu cynaliadwy mewn addysg.”