Cost of Living Support Icon

 

Gall preswylwyr nawr danysgrifio i wasanaeth gwastraff gardd newydd 2024/25

Gall aelwydydd danysgrifio i wasanaeth casglu gwastraff gardd 2024/2025 Cyngor Bro Morgannwg cyn iddo gael ei lansio ar 04 Mawrth 2024.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Ionawr 2024

    Bro Morgannwg



Wilson, Mark

Gall preswylwyr wneud taliad untro i dderbyn casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2024 a threfnu casgliadau gaeaf rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Chwefror 2025.

 

Mae'r Cyngor yn codi naill ai £36 y flwyddyn am hyd at wyth bag y casgliad, neu £54 y flwyddyn am fwy nag wyth bag y casgliad.

 

Er bod y strwythur prisio yn aros yr un peth â'r llynedd, mae prisiau eleni yn adlewyrchu gwasanaeth hwy na'r llynedd.

 

Bydd gan gartrefi hefyd yr opsiwn i danysgrifio i wasanaeth hanner blwyddyn am hanner y gost o fis Awst.

 

Gall preswylwyr naill ai danysgrifio trwy wefan y Cyngor neu ffonio 01446 729566.


Vale of Glamorgan Garden waste bags

Gall preswylwyr sy'n dewis peidio â thanysgrifio i'r gwasanaeth fynd â'u gwastraff gardd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ddim neu ei gompostio gartref.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, Y Cynghorydd Mark Wilson: "Ar ôl chwe mis cyntaf llwyddiannus, rydym yn paratoi i gyflwyno ein gwasanaeth tanysgrifio am flwyddyn gyflawn cyntaf.

 

"Oherwydd pwysau'r gyllideb, lansiwyd y gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd y telir amdano ym mis Gorffennaf y llynedd - nawr, dim ond y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth sy'n talu amdano.

 

"Does dim rhaid i ni gynnig casgliadau gwastraff gardd yn ôl y gyfraith ac felly rwy'n falch ein bod yn gallu parhau i gynnig y gwasanaeth gwerthfawr hwn i'n preswylwyr."