Penodi Pennaeth Gweithredol newydd yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Mae Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Pencoedtre wedi penodi Pennaeth Gweithredol newydd.
Ymhen ychydig wythnosau, bydd Innes Robinson yn cymryd yr awenau gan Debra Thomas, sy'n dychwelyd i'w swydd fel Pennaeth y Bont-faen.
Ei nod yw adeiladu ar y sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant a osodwyd gan Ms Thomas ar ôl iddi dreulio cyfnod estynedig fel Pennaeth Gweithredol.
Ar hyn o bryd Mr Robinson yw Pennaeth ysgol yn Ysgol Uwchradd Whitmore a bydd yn cyfuno ei rôl newydd gyda chyfrifoldebau yno.
Mae'n cyrraedd gydag enw da o gyflawni llwyddiant a chreu diwylliant ysgol cadarnhaol ar ôl bod yn Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd yn flaenorol.
Dywedodd Mr Robinson: "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Debra am ei hymdrechion ym Mhencoedtre. Mae hi wedi rhoi'r ysgol ar lwybr cadarn ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad hwnnw.
"Fy nod nawr yw parhau â'r gwaith rhagorol hwnnw a chyflawni'r weledigaeth sydd gennyf i a'r Cyngor ar gyfer Pencoedtre. Rwy'n credu y gallwn edrych ymlaen gydag optimistiaeth a chyffro ac rwy’n methu aros i ddechrau.
"Rhaid canolbwyntio bob amser ar gyflawni ar gyfer ein disgyblion, gan roi'r cyfle gorau iddynt fod yn llwyddiannus ym mha beth bynnag y maent yn penderfynu ei wneud.
"Mae rhan o hynny'n golygu datblygu cymuned gyda phawb yn tynnu at ei gilydd tuag at nodau cyffredin. Dyna'r ethos yr wyf i eisiau ei sefydlu.
"Mae rôl Pennaeth Gweithredol yn fy ngalluogi i weithio ar draws Ysgol Uwchradd Whitmore a Phencoedtre sy'n bwysig wrth i ni ymdrechu i sicrhau lefelau perfformiad ac ymagwedd cyson uchel mewn addysg ledled y Barri."
Bydd Mr Robinson yn cryfhau Uwch Dîm Arwain (UDA) sydd eisoes yn gryf ym Mhencoedtre, gyda Leanne Pownall yn parhau fel Pennaeth Ysgol Dros Dro, gyda chefnogaeth Cadeirydd y Llywodraethwyr Karen Dellarmi a Chyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Cyngor y Fro, Paula Ham.
Daw ei benodiad ochr yn ochr â llu o newidiadau eraill i wella profiad disgyblion a staff.
Mae dau Bennaeth Cynorthwyol newydd wedi'u recriwtio gyda ffocws ar iechyd a lles, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion.
Bydd staff cymorth disgyblion ychwanegol hefyd yn cael eu cyflogi ym Mhencoedtre, gan fynd â'r cyfanswm i 33, tra bod chwe gweithiwr ieuenctid yn bresennol i gynorthwyo ar wahanol adegau drwy gydol y dydd ac ar ôl ysgol.
Mae Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Swyddog Cyswllt ac Ymgysylltu, a ariennir gan y Cyngor, wedi cael eu cyflogi, ochr yn ochr â Rheolwr Campfa, apwyntiadau a gynlluniwyd i gynorthwyo gyda rhaglenni cymorth i ddisgyblion a theuluoedd yr ysgol.
Bydd cynnydd yn nifer y Cynorthwywyr Cymorth Dysgu yn yr ysgol a mwy o bresenoldeb aelodau’r UDA mewn coridorau ac ardaloedd cymunedol yn ystod amser egwyl.
Mae rhaglenni i gefnogi disgyblion gyda llythrennedd a rhifedd wedi cael eu gwella gyda mwy o waith yn cael ei wneud i helpu'r rhai sydd â phroblemau sylfaenol sy'n gysylltiedig â thrawma.
Mae Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg yr ysgol yn parhau i gael ei weithredu ac mae staff yn derbyn hyfforddiant ychwanegol mewn amrywiaeth o feysydd.
Bydd rhai newidiadau strwythurol yn digwydd i wella Canolfan Dyfodol Llewyrchus yr ysgol, sy'n helpu disgyblion sydd angen sylw arbenigol, gan gynnwys creu lobi ac un pwynt mynediad.
Bydd nodweddion diogelwch o amgylch pwyntiau mynediad yn cael eu huwchraddio hefyd, gyda’r gwaith yn cael ei wneud yn ystod yr hanner tymor sydd i ddod.

Yn y tymor hwy, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i greu adeilad parhaol newydd ar safle'r ysgol.
Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion yn ystod y dydd ac ar gael ar gyfer dysgu fel teulu, oedolion a chymuned y tu allan i oriau ysgol.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor hefyd wedi gweithio gyda Phencoedtre a sefydliadau partner i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion y tu allan i'r profiad ysgol arferol.
Meddai Paula Ham: "Hoffwn dalu teyrnged i Debra Thomas am ei gwaith ym Mhencoedtre. Arhosodd yn ei swydd am gyfnod hirach nag y bwriadwyd yn wreiddiol ac mae wedi gosod gwelliannau sylweddol ar waith ledled yr ysgol.
Hoffwn longyfarch Innes hefyd ar ei benodiad, sy'n foment gyffrous i addysg uwchradd yn y Barri.
"Mae Innes wedi profi ei allu i gyflawni rôl arwain mewn ysgol ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd yn parhau i gyflawni canlyniadau rhagorol ym Mhencoedtre.
"Mae ei benodiad yn un o nifer o newidiadau sy'n digwydd i sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i lwyddo.
"Mae'n dangos ymrwymiad gan y Cyngor, Llywodraethwyr yr Ysgol ac Uwch Arweinwyr i greu ysgol sy'n gallu perfformio i'r safonau uchaf."