Prosiect Rhannu Bwyd yn ehangu i Sain Tathan
Mae Cynllun Rhannu Bwyd Sain Tathan yn estyniad o Brosiect Bwyd ehangach Llanilltud, dan arweiniad Partneriaeth Fwyd y Fro a oruchwylir gan dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac a ddarperir mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.
Nod y bartneriaeth yw adeiladu system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy yn y Fro.
Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn Llanilltud Fawr, sicrhaodd y prosiect le yn y Gathering Place, Flemingston Road, Sain Tathan CF62 4JH i redeg pantri bwyd bob pythefnos.
Dan arweiniad Bwyd y Fro gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, nod y pantri yw gwella mynediad at fwyd fforddiadwy a da yn y gymuned tra'n lleihau gwastraff bwyd.
Bydd y siop dros dro yn cael ei rhedeg gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) bob pythefnos a bydd yn cael ei stocio â bwydydd dros ben o archfarchnadoedd, a chynnyrch wedi'i dyfu'n ffres o brosiectau tyfu lleol.
Bydd cwsmeriaid yn gallu siopa am amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys ffrwythau a llysiau, nwyddau becws, a chynnyrch oergell a rhewgell, am £5.
Cynhelir y pantri nesaf ddydd Mercher 24 Ionawr 2024, 11.30 – 1pm ac mae ar agor i holl drigolion Bro Morgannwg.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Gyda’r gaeaf ar y gweill, bydd llawer o deuluoedd yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw yn fwy nag erioed.
"Mae'r Prosiect Mwy Na Bwyd yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth liniaru pwysau ansicrwydd bwyd yn Llanilltud Fawr ac felly rwy'n falch iawn o'i weld yn ehangu i Sain Tathan.
"Mae'r Gathering Place yn lleoliad amlbwrpas sydd eisoes yn gweld niferoedd mawr yn dod drwy'r drws i gael mynediad at gymorth a chyngor, sy’n ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer y pantri bwyd diweddaraf.
"Diolch yn fawr iawn a da iawn i bartneriaid Bwyd y Fro am barhau i ddarparu a datblygu gwasanaeth y mae cymaint o bobl yn dibynnu arno."
Dywedodd Paul Warren, Rheolwr Gweithrediadau yng Ngwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg: "Mae model Rhannu Bwyd Sain Tathan yn seiliedig ar un llwyddiannus yng Nghanolfan CF61 Llanilltud Fawr, a reolir hefyd gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM).
"Mae'r gymuned leol yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth ac yn helpu i gyfrannu at lwyddiant y Bartneriaeth Prosiect Bwyd."
“The service is extremely valued by the local community and helps contribute to the success of the Food Project Partnership.”
Mae GGM yn recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi'r prosiect. Gallwch gyflwyno ymholiadau am gyfleoedd gwirfoddoli drwy e-bostio volunteering@gvs.wales.