Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cyhoeddi ei adroddiad hunanasesu blynyddol

Mae'r adroddiad hunanasesu blynyddol yn manylu ar sut rydym wedi perfformio wrth gyflawni ein hamcanion dros y flwyddyn ddiwethaf.

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Ionawr 2024

    Bro Morgannwg

 

 

 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ein llwyddiannau allweddol dros y deuddeg mis diwethaf, sy'n cynnwys:          

 

  • Cynyddwyd y dewis sydd ar gael i breswylwyr sy’n oedolion agored i niwed er mwyn cefnogi a gwella eu lles trwy'r fenter 'Eich Dewis'.   Fel rhan o hyn, symudon ni 11 o asiantaethau gofal cartref i’r fenter gyda 235 o ddinasyddion yn derbyn 3,700 o oriau o ofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn eu cartrefi bob wythnos.  Mae ein Gwasanaeth Ymateb i Gwympo 24/7 wedi ymateb i dros 500 o gwympiadau ers i'r gwasanaeth gael ei sefydlu ym mis Hydref 2022, gan leihau nifer y bobl sy'n mynd i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys namyn 440 person gydag amcangyfrif o arbediad o £547K i'r Bwrdd Iechyd.
  • Cefnogwyd prosiectau a arweinir gan y gymuned drwy bron i £180,000 o Gronfa Cymunedau Cryf, sydd wedi bod o fudd i gymunedau. 
  • Cyflawnwyd Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid Arian, i gydnabod darpariaeth effeithiol o ansawdd uchel i bobl ifanc.
  • Cynyddwyd nifer y lleoedd mewn addysg Gymraeg ymhellach gyda 210 o leoedd cynradd ychwanegol yn y datblygiad newydd ar lannau'r Barri (Ysgol Sant Baruc) a 299 o leoedd uwchradd ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. 
  • Cyflawnwyd prosiect uchelgeisiol i leihau digartrefedd trwy gymorth effeithiol i denantiaid a llety gan arwain at ychydig iawn o achosion o gysgu ar y stryd ym Mro Morgannwg. 
  • Cryfhawyd diogelwch cymunedol trwy ddisodli system teledu cylch cyfyng a threfniadau gweithredol y Cyngor yn llawn.  
  • Gweithiwyd ar y cyd i sicrhau statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Efydd ar gyfer y Fro. 
  • Llwyddwyd i sicrhau £600,000 o gyllid ar gyfer gwelliannau i safleoedd bysus ar draws Bro Morgannwg i annog teithio llesol.
  • Gwelliannau i gyfleusterau gwastraff trwy agor Cyfleuster Adfer Adnoddau newydd i brosesu deunydd ailgylchu sydd wedi'i wahanu gan ffynhonnell, siop ailddefnyddio newydd, ymestyn y broses o gyflwyno trefniadau ailgylchu newydd a chynyddu'r ystod o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu ymyl y ffordd i gynyddu cyfranogiad dinasyddion a chyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol.  
  • Sicrhau bod 100% o'n trydan yn cael ei brynu o ffynonellau adnewyddadwy i'n galluogi i gyflawni ein hymrwymiadau lleihau carbon. 
  • Ymuno â threfniant Gwasanaeth Caffael ar y Cyd gyda chynghorau Caerdydd, Sir Fynwy a Thorfaen i gryfhau gwydnwch gwasanaethau a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i sicrhau arbedion trwy gaffael, gyda ffocws penodol ar werth cymdeithasol, 
  • lleihau carbon a chefnogi cyflogaeth leol. 
  • Roeddem yn gweithio gyda'n cymunedau a'r trydydd sector ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol, gan gynnwys trefnu a darparu mannau cynnes, cymorth bwyd, mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, a defnyddio'r rhain fel cyfle i ymgysylltu â phynciau eraill a fydd yn cryfhau ein perthnasoedd gwaith ymhellach.
  • Wedi gwario £5.859 miliwn o gyfraniadau datblygwr  A106 wedi’i wario ar welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, rhwydweithiau cerdded a beicio, lleoedd ysgol newydd, mannau agored cyhoeddus a chelf gyhoeddus, sy’n uwch na’r £5.576 miliwn yn 2021/22.
  • Cafodd yr hyn sy'n cyfateb i tua 44 cae pêl-droed o barciau, mannau agored a thir priffordd eu hau â blodau gwyllt neu eu cynnal fel ardaloedd naturiol yn unol â'n hymrwymiad i wella bioamrywiaeth.
  • Gosodwyd 80 o fannau gwefru cerbydau trydan ychwanegol ar safleoedd y Cyngor a 36 o fannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus.
  • Ymgysylltwyd â’n cymunedau i ddatblygu cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer ein pedair prif dref, a Chynllun Ynni Lleol fel rhan o ymdrechion i gefnogi ein cymunedau a buddsoddi yn ein hasedau adfywio.  
  • Crëwyd gwasanaethau newydd i ategu ein hymateb i'r Argyfwng Costau Byw.  Ymatebwyd i dros 8,000 o alwadau ar ein llinell gymorth Costau Byw a thros 10,000 o geisiadau ar gyfer cymorth ariannol.
  • Ennill Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i gydnabod y gwaith cadarnhaol a wnaed i gefnogi teuluoedd cyn-filwyr a'r lluoedd arfog.
  • Cysylltodd 1,418 o bobl â'n Siop Un Stop am gymorth ar gyfer amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â thai, gydag ymyriadau'n dangos canlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Cynhaliwyd mwy na 30 o ddigwyddiadau ar y cyd â sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan gefnogi economi'r Fro a chodi proffil y Fro fel cyrchfan digwyddiadau 
  • Roedd 130 o bartneriaid yn rhan o gyflwyno 147 o weithgareddau mewn 946 sesiwn mewn 23 ardal o'r Fro, gan gyflawni dros 19,500 o gyfranogiadau gyda 99% yn fodlon â gweithgareddau.  Mae hyn yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu cyfleoedd ar gyfer chwarae a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn cymunedau. Cymerodd 433 o blant ag anableddau a 477 o blant ag anghenion dysgu ychwanegol ran yn y gweithgareddau.
  • Darparwyd dau dŷ clyfar, gyda thrydydd bron â chael ei gwblhau a 6 arall yn yr arfaeth ar gyfer 2024/25, gan gefnogi byw'n annibynnol a gwella lles dinasyddion.
  • Cynyddwyd ein cynnig Lles mewn llyfrgelloedd gyda 934 o ddigwyddiadau yn denu 15,459 o gyfranogwyr.

Nod yr adroddiad hunanasesu yw rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, ein Rheoleiddwyr, dinasyddion Bro Morgannwg a rhanddeiliaid eraill sut rydym yn perfformio, ein bod yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored, ac yn defnyddio'n harian ac adnoddau eraill yn effeithiol i gyflawni ymrwymiadau ein Cynllun Cyflawni Blynyddol a chyfrannu at yr amcanion llesiant cenedlaethol.  

 

Ochr yn ochr â chanfyddiadau ein hunan-asesiad, rydym hefyd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, i ofyn iddynt beth maen nhw'n ei feddwl am ein perfformiad a'r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt yn y flwyddyn sydd i ddod.   

 

Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn hysbysu ein meysydd i ni ganolbwyntio ymhellach arnynt ac a gaiff eu hadlewyrchu yng Nghynllun Cyflawni Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2024/25.  Fel yng Nghynllun Cyflawni Blynyddol y flwyddyn flaenorol, mae pwyslais parhaus ar ein tair her hanfodol y bydd llawer o gamau gweithredu yn y cynllun yn cyfrannu atynt. Yr heriau hyn yw:

 

  • Gwydnwch Sefydliadol (ein cyllid, pobl ac asedau) - sicrhau y gallwn barhau i addasu yn wyneb heriau a darparu ein gwasanaethau er gwaethaf y pwysau ariannol a heriau’r gweithlu sy'n ein hwynebu ni a nifer o'n sefydliadau partner. 
  • Argyfwng Costau Byw - cefnogi ein trigolion, sefydliadau a busnesau lleol yn wyneb costau cynyddol yn enwedig o ran ynni, bwyd a thai. 
  • Argyfyngau Hinsawdd a Natur - ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyflawni’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Her Hinsawdd. 

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol drafft, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.  Ewch i: Cynllun Cyflawni Blynyddol 2024-25 | Cymryd Rhan y Fro (bromorgannwg.gov.uk)

 

Am ragor o wybodaeth am yr Adroddiad Hunanasesu, darllenwch yr adroddiad llawn.