Cost of Living Support Icon

 

Cabinet y Cyngor yn ymweld â Phod Cymorth

Mae aelodau Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi ymweld â chanolfan gymorth a reolir gan Dîm Dysgu a Sgiliau'r Awdurdod.

 

  • Dydd Mawrth, 30 Mis Ionawr 2024

    Bro Morgannwg

    Barri



Wedi’i leoli ar lawr gwaelod Golau Caredig yn Stryd Lydan, Y Barri, Siop un stop yw'r Pod, sy'n cynnig cyngor a chymorth ar amrywiaeth o bynciau.


Mae'n cynorthwyo â dyled, iechyd meddwl a thai ochr yn ochr â chyngor cyflogaeth a hyfforddiant TG ac fe'i hariennir trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.


Y nod yw rhoi'r sgiliau i bobl ddod o hyd i waith a'u helpu ar hyd y broses honno drwy ddarparu cymorth i greu CVs a llenwi ffurflenni cais.

 

pod2

Mae ffocws ar bobl sy’n ddi-waith yn yr hirdymor, y rhai dros 50 sydd wedi gadael gwaith yn ddiweddar a phobl anabl a allai wynebu heriau unigryw.


Mae cymorth ar gael i bobl sydd â ag anhawster dysgu, awtistiaeth ac agweddau eraill ar niwrowahaniaeth i gyflawni eu potensial llawn.


Mae gan amrywiaeth o sefydliadau partner bresenoldeb ar y pod, gan gynnwys Tai Hafod, Cymunedau am Waith, Busnes Cymru, Cyngor ar Bopeth, Gyrfa Cymru, a Dysgu Oedolion yn y Gymuned, gyda chymorth ar gael drwy apwyntiad neu drwy alw heibio.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Roedd hi'n wych cael cwrdd â rhai o'r staff a'r defnyddwyr gwasanaeth yn T Pod i weld y gwaith gwych sy'n digwydd yno.


"Mae'r ganolfan hon yn adnodd gwerthfawr i breswylwyr, gan gynnig help gyda phethau fel tai, cyflogaeth a lles. 


"Os ydych chi'n meddwl y gallwn ni eich helpu chi gyda phryder neu ymholiad, mae'n werth dod i mewn am sgwrs gyda'r tîm.


"Mae cyfleuster o'r fath yn gwbl hanfodol ac yn enghraifft o'r math o wasanaeth yr ydym wedi addo ei flaenoriaethu fel rhan o'n proses pennu cyllideb."