Cost of Living Support Icon

 

Straeon gofalwyr maeth Bro Morgannwg yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chefnogi plant mewn gofal yng Nghymru

Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol.

  • Dydd Gwener, 02 Mis Chwefror 2024

    Bro Morgannwg



Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

 

Ar hyn o bryd mae 262 o blant mewn gofal maeth ym Mro Morgannwg. Mae 129 o ofalwyr maeth yn y Fro, ond mae angen 63 arall.

 

Foster Wales Social DinnerHeddiw, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.

 

Mae Maethu Cymru Bro Morgannwg wedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘gall pawb gynnig rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

 

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

 

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

• Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.

• Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

• Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

 

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.

 

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd.”

 

Dywedodd Alison James, gofalwr maeth ym Mro Morgannwg:  "Dechreuais faethu ar gyfer y Fro yn 2016 ar ôl colli fy ngŵr.  Doeddwn i ddim yn siŵr a allwn i ei wneud ar fy mhen fy hun, ond rydw i wrth fy modd. 

 

"Mae rhai heriau wedi bod, ond mae'n rhoi cymaint o foddhad pan welwch chi'r plant yn gwneud yn iawn.

 

"Drwy fynychu'r grŵp cymorth rwyf wedi adeiladu rhwydwaith cymorth gwych o Ofalwyr Maeth, ac wedi gwneud ffrindiau arbennig iawn, sydd mor gefnogol pan fyddwch yn cael trafferthion. Mae'r rhain wedi bod mor ddefnyddiol i mi.  Mae maethu yn rhoi cymaint o foddhad."

 

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

 

Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

 

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

 

Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall Gofal Maeth ei wneud i blant sy'n delio â sefyllfaoedd anodd y tu hwnt i'w rheolaeth.  Gyda chefnogaeth anhygoel gan ofalwyr maeth ein hawdurdod lleol ym Mro Morgannwg, caiff plant eu cefnogi gydag empathi, sgiliau, profiad a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo'n saff ac yn ddiogel.

 

"Mae mwy o blant yn ein hardal ni sydd angen cartref croesawgar a'r gofalwr maeth cywir iddyn nhw.  Byddai'n anhygoel pe gallai mwy o bobl ddod yn ofalwyr maeth. Mae Maethu Bro Morgannwg yn recriwtio a byddant yn sicrhau y bydd gwybodaeth a chymorth lleol pwrpasol yn galluogi plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, ysgol a phopeth sydd yn bwysig iddyn nhw."

 

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i:

https://bromorgannwg.maethucymru.llyw.cymru/